Fydd tîm pêl-droed Leicester City ddim yn hedfan i Gaerdydd ar gyfer eu gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn (Tachwedd 3).

Mae’r tîm wedi penderfynu teithio ar y bws, gan y byddai hedfan yn “ansensitif” yn dilyn y gwrthdrawiad hofrennydd a laddodd bump o bobol, gan gynnwys eu perchennog Vichai Srivaddhanaprabha, dau aelod o’i staff a dau beilot.

Fe fu trafodaeth ynghylch cynnal y gêm o gwbl, gyda phenderfyniad wedi’i wneud i gynnal munud o dawelwch cyn yr ornest yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a’r chwaraewyr yn gwisgo band du am eu breichiau.

Mae llyfr teyrngedau wedi’i agor yn Stadiwm King Power yng Nghaerlŷr.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod beth oedd wedi achosi i’r hofrennydd fynd allan o reolaeth cyn plymio i’r ddaear ym maes parcio’r stadiwm ddydd Sadwrn.