Mae’r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Getin Jenkins, wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol yn dilyn y gêm rhwng y Gleision a Zebre y penwythnos hwn.

Mae’r prop 37 oed wedi gwneud y penderfyniad hwn oherwydd anaf cronig i’w goes.

Y gŵr o Llanilltud Faerdref sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau dros Gymru, gan sicrhau 129 cap ers ei ymddangosiad cyntaf yn y crys coch yn 2002.

Mae wedi ymddangos 194 o weithiau yng nghrys y Gleision hefyd, ac fe fydd yn cael y cyfle i ffarwelio a’r gêm yng nghrys y clwb ddydd Sul (Tachwedd 4).

Balchder

“Dw i’n falch o bopeth yr ydw i wedi’u cyflawni yn ystod fy ngyrfa, yn enwedig capteinio’r Gweilch yn ystod y tri thymor diwethaf,” meddai.

“Fydd dim wedi bod yn bosib heb fy rhieni, a bydd ennill y Gamp Lawn yn 2005 yn aros yn y cof yn wastad gan fod mam a dad wedi bod yno i’m cefnogi.”

Mae disgwyl i’r Gleision herio Zebre ym Mharc yr Arfau ddydd Sul mewn gêm yn rhan o gystadleuaeth y Pro 14. Bydd yn cychwyn am 2.45yp.