Abertawe 2–0 Reading
Sgoriodd Oliver McBurnie ddwy gôl wrth i Abertawe guro Reading ar y Liberty yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Rhwydodd yr Albanwr o’r smotyn yn yr hanner cyntaf cyn sicrhau’r tri phywnt gyda’i ail yn hwyr yn y gêm.
Yr Elyrch a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen saith munud cyn yr egwyl diolch i gic o’r smotyn McBurnie yn dilyn trosedd Andy Yiadom ar Daniel James.
Chwaraeodd James ei ran yn yr ail chwe munud o ddiwedd y naw deg hefyd, yn gwneud yn dda ar y chwith cyn croesi i McBurnie yn y canol i sicrhau’r tri phwynt.
Mae’r canlyniad yn codi tîm Graham Potter i’r seithfed safle yn y tabl.
.
Abertawe
Tîm: Nordfeldt, Naughton, van der Hoorn, Rodon, Olsson (Carter-Vickers 78’), Fulton (Fer 62’), Grimes, Roberts, Celina, James (John 88’), McBurnie
Goliau: McBurnie [c.o.s.] 38’ 84’
Cardiau Melyn: McBurnie 54’, Nordfeldt 66’
.
Reading
Tîm: Jaakkola, Yiadom, O’shea, Moore, Blackett, Kelly, Bacuna, Swift (Sims 88’), McCleary (Bodvarsson 64’), Meite (Aluko 90+2’), Baldock
Cerdyn Melyn: Baldock 81’
.
Torf: 18,785