Mae Clwb Pêl-droed Aston Villa wedi diswyddo’u rheolwr Steve Bruce ychydig dros bythefnos cyn iddyn nhw groesawu Abertawe i Barc Villa yn y Bencampwriaeth.
Tra bod yr Elyrch yn chweched gydag 17 o bwyntiau, mae Aston Villa’n ddeuddegfed gyda 15 o bwyntiau – ac fe allai penodi rheolwr newydd ar yr adeg hon roi momentwm i’r Saeson ar drothwy’r gêm ar Hydref 20.
Maen nhw wedi ennill tair gêm allan o 11 y tymor hwn o dan y rheolwr sydd â’r record orau o blith rheolwyr presennol yr adran am sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr o’r Bencampwriaeth.
Yn y gorffennol, mae e wedi ennill dau ddyrchafiad gyda Hull a dau gyda Birmingham, ac fe ddaeth o fewn trwch blewyn i sicrhau’r pumed gydag Aston Villa y tymor diwethaf, cyn colli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Roedd e wrth y llyw am ddwy flynedd, gan ddisodli Roberto di Matteo yn 2016, ond roedd ei swydd yn ansicr ar ôl i berchnogion newydd gamu i mewn.
Cafodd ei feirniadu droeon gan y cefnogwyr y tymor hwn, fodd bynnag, a’r penllanw neithiwr pan daflodd cefnogwr fresych ato wrth i’r tîm fethu cic o’r smotyn a gorffen yn gyfartal 3-3 yn erbyn Preston.