Met Caerdydd 4–1 Y Seintiau Newydd
Met Caerdydd a aeth â hi wrth iddynt groesawu’r Seintiau Newydd i Gampws Cyncoed yn Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Sul.
Rhoddodd y myfyrwyr wers iawn i’r pencampwyr wrth rwydo pedair yn ei herbyn mewn buddugoliaeth gyfforddus.
Er i Ryan Brobbel daro’r postyn i’r Seintiau yn yr eilidau agoriadol fe ddaeth Met yn fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner cyntaf fynd rhagddo. A’r tîm cartref a aeth ar y blaen wedi 25 munud wrth i Rhys Thomas lwyddo i droi croesiad Eliot Evans heibio i Paul Harrison yn y gôl gyda’i ben-glin.
Gwastraffodd Adrian Cieslewicz gyfle da i unioni pethau i’r ymwelwyr wedi hynny ond roedd Met ddwy gôl ar y blaen cyn yr egwyl, gydag Evans yn ei chanol hi eto. Llwyddodd Harrison i arbed ei ergyd ef ond gwyrodd hi’n syth i lwybr Sam Snaith, a lwyddodd i orffen yn ddewr.
Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda Snaith yn sgorio, y blaenwr yn cwblhau gwrthymosodiad chwim y tro hwn.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r pencampwyr wyth munud o’r diwedd wrth i ergyd Chris Baker wyro heibio i Harrison yn dilyn rhagor o waith da gan y dylanwadol, Evans.
Gôl gysur yn unig a oedd ymdrech hwyr eilydd y Seintiau, Greg Draper, gyda Met yn llawn haeddu’r tri phwynt.
Mae’r canlyniad yn codi’r Met i’r seithfed safle yn y tabl wrth i’r Seintiau ildio eu lle ar y brig i Gei Connah.
.
Met Caerdydd
Tîm: Manson, Rees, McCarthy, Lewis, Bowler, Evans, Baker, Edwards, Thomas (Roscrow 58’), Snaith (Williams 89’), Morgan (Swindlehurst 27’)
Goliau: Thomas 25’, Snaith 37’, 53’, Baker 82’
Cerdyn Melyn: Thomas 33’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Holland, Cabango, Brobbel (Byrne 59’), Redmond, Cieslewicz (Lewis 59’), Hudson, Mullan, Ebbe (Draper 45’)
Gôl: Draper 87’
Cerdyn Melyn: Cabango 41’
.
Torf: 262