Mae disgwyl i gymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyflwyno cais ar y cyd i gynnal Cwpan Pêl-droed y Byd yn 2030.
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi dweud y byddai’n cefnogi unrhyw gais arfaethedig i ddenu cystadleuaeth bêl-droed ryngwladol fwya’r byd.
Mae’r gwaith o benderfynu a fyddai cais o’r fath yn bosib ar y gweill a mater i’r byd pêl-droed ei benderfynu fyddai cyflwyno cais, meddai Theresa May.
Daw’r newyddion am y cais posib ar ôl i’r Ysgrifennydd Addysg Damian Hinds a’r Gweinidog Chwaraeon Tracey Couch lansio cynllun gweithredu traws-lywodraethol i gynyddu ymrwymiad i chwaraeon cystadleuol mewn ysgolion.
Mae disgwyl i’r cynllun gweithredu dynnu ar arbenigedd Uwch Gynghrair Lloegr, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ac Undeb Rygbi Lloegr.