Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Graham Potter wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn hapus gyda’i garfan, er i ddau o’r chwaraewyr a ddylai fod yn gwisgo crys yr Elyrch y tymor hwn gyfrannu at fuddugoliaeth Stoke o 1-0 nos Fawrth.
Rhwydodd Joe Allen unig gôl i gêm, wrth i Ryan Woods gael ei enwi’n seren y gêm.
Ond mewn gwirionedd, mae’r Elyrch wedi colli sawl cyfle i arwyddo’r ddau chwaraewr canol cae dros y blynyddoedd diwethaf.
Daeth cyfle i arwyddo Joe Allen cyn iddo fynd i Stoke ar ôl ymgyrch lwyddiannus Cymru yn Ewro 2016, ac roedd yr Elyrch wedi gwrthod talu £500,000 yn fwy er mwyn denu Ryan Woods o Brentford cyn i’r ffenest drosglwyddo ddiweddaraf gau.
Achosodd y ddau broblemau i ddeuawd yr Elyrch yng nghanol y cae, Matt Grimes a Kyle Naughton, un sy’n arfer chwarae yn safle’r cefnwr de ond a gafodd ei symud yn sgil argyfwng anafiadau.
‘Hapus’
Dywedodd Graham Poter wrth golwg360, “Ro’n i’n hapus gyda Matt Grimes a Kyle Naughton – a George Byers hefyd.
“Roedden nhw’n fwy nag addas ar y llwyfan hwnnw. Fy her i yw cael y bois yna i gyrraedd yr un lefel â’r rhai ry’n ni’n sôn amdanyn nhw [Joe Allen a Ryan Woods].
“Ond mae’n wastraff egni i fi boeni am bwy sydd gan y gwrthwynebwyr. Fy ngwaith i yw edrych ar y bois sydd gyda ni fan hyn a’u helpu nhw i wella.”
Taith i Middlesbrough
Serch hynny, pan fydd Graham Potter yn edrych ar restr chwaraewyr Middlesbrough ddydd Sadwrn, fe fydd yn anodd anwybyddu rhai o’r enwau mawr sydd yn eu plith.
Mae ganddyn nhw nifer o chwaraewyr â phrofiad helaeth o bêl-droed ar lefel uchel, gan gynnwys Stewart Downing, Muhamed Besic, Daniel Ayala, Britt Assombalonga, Paddy McNair a Jonny Howson.
Ychwanegodd Graham Potter eu bod nhw’n “dîm da sydd tua’r brig am reswm”, a bod ganddyn nhw’r gallu i “ymosod mewn sawl ffordd, mewn chwarae agored ac mewn chwarae gosod”.
Tony Pulis
Fe fydd y Sais o reolwr yn mynd benben â’r Cymro Tony Pulis, ac mae’n disgwyl cryn her o’r herwydd.
“Fel y byddech chi’n disgwyl gan dîm Tony Pulis, maen nhw’n wydn iawn, yn drefnus iawn ac yn gallu amddiffyn gyda phedwar, pump neu chwech o chwaraewyr.
“Ac wrth amddiffyn, mae ganddyn nhw fygythiadau ymosodol hefyd y gallan nhw droi atyn nhw.
“Mae ganddyn nhw garfan gref iawn ar gyfer y Bencampwriaeth. Os edrychwch chi ar gryfder y garfan, mae ganddyn nhw Assombalonga a Besic, ac roedd ganddyn nhw griw da cyn hynny beth bynnag.
“Mae Tony yn rheolwr o’r radd flaenaf.”