Ar drothwy wythnos anodd i dîm pêl-droed Abertawe, mae eu rhestr anafiadau wedi tyfu yn dilyn y gêm ddi-sgôr yn erbyn Nottingham Forest yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.
Roedden nhw eisoes yn wynebu’r gemau yn erbyn Stoke a Middlesbrough heb Leroy Fer, Jefferson Montero a Tom Carroll ond maen nhw bellach heb ddau arall yng nghanol y cae, Jay Fulton a Bersant Celina oedd wedi mynd benben â’i gilydd cyn dod oddi ar y cae.
Mae’r anafiadau’n golygu y gallai’r cefnwr de Kyle Naughton orfod ymddangos yng nghanol y cae i lenwi’r bwlch wrth i Abertawe deithio i Stoke nos Fawrth (8 o’r gloch).
Anafiadau tymor hir
Serch hynny, mae’r rheolwr Graham Potter yn credu bod yna gyfle i’r Elyrch ddangos y gallan nhw ymdopi â heriau’r Bencampwriaeth.
Wrth gyfarfod â’r wasg, dywedodd, “Dyma pryd ry’ch chi’n darganfod tipyn amdanoch chi eich hunain a’r criw ar y cyfan. Mae angen i ni chwarae yn erbyn pob tîm ar ryw adeg, felly pam ddim nawr?
“Mae [anafiadau] yn rhan o’r her yn y math yma o gystadleuaeth. Ry’n ni wedi ymdopi â nifer o anafiadau tymor hir, ac roedden ni’n gwybod am sefyllfaoedd Leroy [Fer] a Wilfried [Bony].
“Mae gan Bersant [Celina] a Jay [Fulton] anafiadau all ddigwydd wrth fod yn gorfforol yn y Bencampwriaeth.”
Amser da i herio Stoke?
Er bod Abertawe a Stoke ill dau wedi gostwng o’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf, perfformiadau tra gwahanol gafwyd hyd yn hyn yn y Bencampwriaeth gan y ddau dîm.
Tra bod Abertawe’n chweched ar ôl ennill tair gêm a thair gêm gyfartal allan o saith, mae Stoke yn ugeinfed ar ôl ennill un, colli tair a thair gêm gyfartal.
Fe fydd yr Elyrch yn herio’r Cymro Joe Allen a Ryan Woods, un o’r chwaraewyr yr oedden nhw wedi gobeithio’i ddenu i Stadiwm Liberty cyn i’r ffenest drosglwyddo gau.
Yn ôl Graham Potter, does dim amser da i herio tîm all fod yn wrthwynebwyr anodd ar unrhyw adeg yn ystod y tymor.
“Mae herio Stoke oddi cartref bob amser yn anodd. Byddai’n gamgymeriad poeni am y tabl ar ôl saith gêm.
“Ry’n ni mewn sefyllfaoedd gwahanol i’n gilydd, ond mae gan bawb eu heriau unigol. Maen nhw wedi cymryd rhai wythnosau i ymgyfarwyddo [â’r Bencampwriaeth] ond fe all hynny ddigwydd.
“Mae ganddyn nhw chwaraewyr da, rheolwr talentog a deallus [Gary Rowett] sy’n gwybod sut i ennill gemau felly maen nhw ar y trywydd iawn o safbwynt gwella, ac ry’n ni’n gobeithio arafu’r llwybr iddyn nhw.”
Atgofion y cefnogwyr o herio Stoke
Wrth wylio’r gêm nos Fawrth, fe fydd cefnogwyr Abertawe’n cofio’r gêm dyngedfennol yn Stadiwm Liberty y tymor diwethaf, pan sicrhaodd Stoke fod yr Elyrch yn gostwng o’r Uwch Gynghrair.
Ond dywedodd Graham Potter wrth golwg360 fod sefyllfa’r gêm nos Fawrth yn gwbl wahanol, ac na fyddai’r canlyniad tyngedfennol hwnnw ar feddyliau unrhyw un y tro hwn.
“Gêm Bencampwriaeth yw hon, ac fe fu newid mawr mewn personél. Ry’n ni’n gwybod y bydd yn dipyn o her mynd yno i wynebu tîm sydd â chwaraewyr da iawn. Ac maen nhw wedi ychwanegu at y garfan hefyd.
“Waeth bynnag beth ddigwyddodd y tymor diwethaf, mae’n mynd i fod yn her i ni. Roedden nhw’n dîm sefydlog yn yr Uwch Gynghrair ac fe fydd yn brawf da i ni ddod drwyddo fe.”
Atgofion y rheolwr
Ac fe fydd Graham Potter yn cael ei atgoffa o’i dair blynedd a hanner yn chwaraewr gyda’r clwb yn y 1990au – “amserau da,” yn ôl y rheolwr.
“Mae’n glwb da, mae wedi newid dipyn ers i fi fod yno, ond ro’n i wedi mwynhau fy nhair blynedd a hanner yno.
“Mae’r cefnogwyr yn hoff o gynnal y tîm, mae’n mynd yn fywiog o dan y llifoleuadau. Roedden nhw’n arfer anelu tipyn o sarhad tuag ata i, cofiwch! Roedden nhw’n rhoi gwybod i chi beth oedden nhw’n ei feddwl amdanoch chi.
“Ond dw i’n siŵr y byddan nhw’n gyfeillgar!”
I Graham Potter, mae un digwyddiad anffodus yn aros yn y cof – wrth i Stoke herio Caerlŷr mewn gemau ail gyfle dros ddau gymal yn 1996.
“Y tymor wnes i adael, cyrhaeddon ni’r gemau ail gyfle ac fe fethais i beniad yn Filbert Street pan ddylwn i fod wedi sgorio. Roedd y peniad yn ofnadwy, a dw i ddim yn siŵr bod y cefnogwyr wedi maddau i fi – eitha’ reit, hefyd!”