Er i’w dîm golli o 4-1, mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock wedi mynegi ei falchder ar ôl gêm anodd yn erbyn Chelsea yn Stamford Bridge brynhawn Sadwrn.
Er i Eden Hazard sgorio hatric o goliau cyn i Willian ychwanegu pedwaredd, yr Adar Gleision rwydodd gyntaf drwy Sol Bamba.
Mae’r canlyniad yn golygu bod yr Adar Gleision yn parhau heb fuddugoliaeth yn y gynghrair y tymor hwn.
Dywedodd Neil Warnock ei fod e wedi “siomi” yn sgil y goliau ildiodd ei dîm, a’u bod nhw “yn y gêm am 80 munud” yn erbyn y tîm sydd wedi codi i frig tabl Uwch Gynghrair Lloegr.
“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi ymdopi’n dda ar y cyfan ac wedi ceisio chwarae lle bynnag oedd hynny’n bosibl. Wnaethon ni ddim ceisio cau popeth i lawr, ac fe wnaethon ni geisio ymosod. Mae yna bethau bychain mae angen i ni wella arnyn nhw.
“Maen nhw [Chelsea] yn un o’r prif dimau. Ro’n i’n credu ein bod ni wedi’u herio nhw’n dda.”
Manchester City yw gwrthwynebwyr nesa’r Adar Gleision ddydd Sadwrn nesaf (Medi 22) wrth iddyn nhw deithio i Stadiwm Dinas Caerdydd.