Mae tîm pêl-droed Arsenal wedi amddifadu Caerdydd o bwynt ar ôl iddyn nhw sgorio gôl fuddugol hwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Tarodd yr Adar Gleision yn ôl ddwywaith i’w gwneud hi’n 2-2 cyn i Alexandre Lacazette daro chwip o gôl i’r rhwyd ar ôl 81 munud i sicrhau’r triphwynt.
Aeth y Saeson ar y blaen am y tro cyntaf ar ôl 11 munud wrth i Shkodran Mustafi ddarganfod y rhwyd gyda’i ben.
Ond roedd y sgôr yn gyfartal yn yr amser a ganiateir am anafiadau ddiwedd yr hanner cyntaf pan sgoriodd Victor Camarasa ei gôl gyntaf i’r Cymry – a gôl gynta’r tîm yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn.
Roedd y Saeson ar y blaen unwaith eto ar ôl 62 munud yn dilyn ergyd bwerus Pierre-Emerick Aubameyang, ond tarodd Caerdydd yn ôl am yr ail waith ar ôl 70 munud i roi llygedyn o obaith i’r Adar Gleision.
Ond daeth ergyd farwol Alexandre Lacazette naw munud cyn diwedd y 90 i adael tîm Neil Warnock ddau safle uwchlaw’r gwymp.