Mae’r papurau newydd yn llawn straeon am ddyfodol Gareth Bale.
Yn ôl rhai adroddiadau gallai ymadawiad Zinedine Zidane yn reolwr Real Madrid, olygu bod y Cymro yn aros gyda phencampwyr Ewrop.
Ond mae’r Metro yn dweud bod Real Madrid yn fodlon gwerthu’r ymosodwr am £105 – £134 miliwn, a bod Man U a Bayern Munich yn cystadlu i’w arwyddo.
Ac mae Gareth Bale yn tueddu i ffafrio symud i’r Almaen, yn ôl y Metro, a hynny er mwyn cael bywyd tawel.
Ofn y Cymro, medden nhw, yw y byddai ei deulu yn darged i’r Wasg Brydeinig pe bae e’n symud nôl i chwarae yn Lloegr.
Yn ôl y Daily Mail fe fydd y seren sgoriodd ddwy gôl yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr nos Sadwrn diwethaf, gan gipio’r gwpan i Real Madrid, yn trafod ei ddyfodol gyda’i glwb presennol yn y pythefnos nesaf.
Yn ôl y papur newydd hwnnw, Gareth Bale yw prif darged Man U tros yr Haf ac maen nhw yn fodlon talu £121 miliwn am ei wasanaethau.