Mae tîm pêl-droed merched Cymru ar frig eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd o hyd ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Lloegr yn Southampton nos Wener.
Roedd yr amddiffynwyr ar eu gorau ar y noson, er i Loegr daflu popeth atyn nhw yn yr hanner cyntaf.
Roedd y bêl yn ymddangos fel pe bai wedi croesi’r llinell yn dilyn ergyd gan Natasha Harding oedd wedi adlamu oddi ar amddiffynnwr i lwybr Lucy Bronze. Ond doedd y gôl ddim wedi cael ei chaniatáu.
Roedd y gôl-geidwad Laura O’Sullivan ar ei gorau i atal ymosodwyr Lloegr rhag mynd ar y blaen droeon yn ystod y gêm.
Ychydig iawn o gyfleoedd gafodd Cymru, serch hynny, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw fodloni ar bwynt ar ôl atal un ymgais hwyr gan Loegr at y gôl.
Bydd Cymru’n herio Bosnia a Herzegovina gartref ar Fehefin 7 a Rwsia gartref bum niwrnod yn ddiweddarach, ond dydy’r lleoliadau ddim wedi cael eu cadarnhau eto.