Caerdydd 3–1 Burton
Mae Caerdydd gam yn nes at sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn buddugoliaeth dros Burton yn y Bencampwriaeth brynhawn Gwener y Groglith.
Zohore, Mendez-Liang a Peterson a sgoriodd y goliau mewn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y tîm o’r gwaelodion yn Stadiwm y Ddinas.
Agorodd Kenneth Zohore’s sgorio wedi chwarter awr yn dilyn gwaith da gan Junior Hoilett ar yr asgell.
Roedd yr ymwelwyr yn gyfartal o fewn pum munud serch hynny diolch i Darren Bent, y blaenwr profiadol yn rhwydo wedi gwaith creu Lloyd Dyer.
Adferodd Nathaniel Mendez-Laing fantais yr Adar Gleision yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner wedi camgymeriad Tom Flanagan.
Parhau i reoli a wnaeth y tîm cartref ar ddechrau’r ail hanner a doedd dim syndod gweld Callum Paterson yn rhwydo’r drydedd toc wedi’r awr wedi rhagor o waith da gan y dylanwadol, Hoilett.
Mae Caerdydd yn ail yn y tabl, saith pwynt yn glir o Fulham sydd yn drydydd gyda saith gêm yn weddill.
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Paterson, Grujic, Bryson (Gunnarsson 67’), Mendez-Laing (Wildschut 85’), Zohore (Madine 71’), Hoilett
Goliau: Zohore 16’, Mendez-Laing 45+1’, Paterson 64’
Cerdyn Melyn: Bryson 9’
.
Burton
Tîm: Baywater, Brayford (Egert 76’), Naylor, McFadzean, Flanagan, Sordell, Allen, Murphy, Dyer, Boyce (Davenport 69’), Bent (Sbarra 82’)
Gôl: Bent 20’
Cardiau Melyn: Naylor 37’, McFadzean 47’
.
Torf: 21,086