Mae’r Seintiau Newydd yn dathlu eu seithfed tlws y gynghrair o’r bron – a’u deuddegfed erioed.

Cipion nhw’r gynghrair neithiwr ar ôl i’r Bala golli o 1-0 yn erbyn Cei Connah – dim ond pwynt oedd ei angen beth bynnag wrth iddyn nhw herio’r Derwyddon Cefn ddydd Sul.

Mae Cei Connah bellach yn ail uwchben Y Bala, ac mae ganddyn nhw fantais o 13 o bwyntiau ar y brig.