Mae rhediad tîm pêl-droed Abertawe yng Nghwpan FA Lloegr wedi helpu’r cefnwr ifanc o Gastell-nedd, Connor Roberts i ennill ei le yng ngharfan Cymru, yn ôl rheolwr yr Elyrch, Carlos Carvalhal.

Cafodd Roberts ei enwi ddydd Iau yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Tsieina, sy’n dechrau ddydd Iau nesaf. Bydd Cymru’n herio Tsieina a naill ai Wrwgwái neu Weriniaeth Tsiec yn ystod y gystadleuaeth.

Mae’r chwaraewr 22 oed yn un o bum wyneb newydd yng ngharfan y rheolwr newydd Ryan Giggs, ac yntau wedi bod yn enw cyson yng ngharfan Abertawe, sy’n herio Spurs yn rownd yr wyth olaf yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Fe fu’n dipyn o daith i’r chwaraewr a aeth ar fenthyg i Middlesbrough ym mis Gorffennaf pan oedd Paul Clement wrth y llyw, ac a gafodd ei anfon yn ei ôl i Abertawe pan gafodd y Cymro Tony Pulis ei benodi i swydd rheolwr Middlesbrough.

O dan reolaeth Carlos Carvalhal, mae e wedi ymddangos ar y cae saith gwaith ers chwarae yn ei gêm gyntaf yn erbyn Wolves yng Nghwpan FA Lloegr ym mis Ionawr. Ac yn ôl Carlos Carvalhal, mae’r gemau hynny wedi ei ddatblygu fel chwaraewr.

“Mae wedi helpu dipyn oherwydd mae e’n gallu chwarae ar lefel dda,” meddai wrth golwg360. “Mae e’n gystadleuol iawn. Roedd e ar y fainc ar gyfer y gêm ddiwethaf, ond mae e’n barod pan fydd ei angen e arnom ni.”

Rhinweddau

Yn ôl Carlos Carvalhal, mae gan Connor Roberts y rhinweddau i lwyddo ar y llwyfan rhyngwladol.

“Mae ganddo fe ddyfodol da o’i flaen. Mae e’n chwaraewr cryf yn y ddwy elfen o’i gêm, sef bod yn drefnus yn amddiffynnol, bod yn gryf mewn sefyllfaoedd un-i-un ac yn anodd i’w basio ond hefyd â chyflymdra da a bod yn drefnus wrth ymosod.

“Rhaid i Connor ddysgu mwy, ond mae e’n chwaraewr sydd yng nghanol proses ac sydd ar ei ffordd.

“Bydd yr alwad [i garfan Cymru] yn ysgogiad enfawr, yn bwysig iawn iddo fe ac i ni hefyd.

“Does dim amheuaeth am ei hyder oherwydd mae e’n barod, mae hynny’n bwysig, ac fe fyddwn ni’n ei helpu fe i ddatblygu.”