Mae disgwyl i chwaraewr canol cae Cymru, Andy King symud ar fenthyg i Abertawe tan ddiwedd y tymor.
Prin fu cyfleoedd y Cymro yng nghrys Caerlŷr y tymor hwn – mae e wedi chwarae mewn 11 o gemau’n unig yn Uwch Gynghrair Lloegr.
A dyw e ddim wedi chwarae o gwbwl ers y gêm gwpan yn erbyn Fleetwood ar Ionawr 6.
Fe fyddai’r Cymro, sydd wedi ennill 44 o gapiau dros ei wlad, yn llenwi bwlch ym mlaen y cae wrth i’r Elyrch chwilio am ragor o opsiynau ymhlith y blaenwyr.
Mae’r clwb hefyd yn gobeithio arwyddo Andre Ayew o West Ham, ac yntau wedi symud yno o Abertawe yn 2016.
Roedd Andy King yn aelod o garfan Caerlŷr pan enillon nhw dlws Uwch Gynghrair Lloegr yn 2015-16.
Mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins wedi dweud ei fod yn “hyderus” o sicrhau llofnod y ddau chwaraewr cyn i’r ffenest drosglwyddo gau am 11 o’r gloch heno (nos Fercher).
Ond mae’n annhebygol y byddan nhw’n llwyddo i ddenu’r asgellwr Lazar Markovic ar fenthyg o Lerpwl.
Mae’r Elyrch eisoes wedi rhyddhau’r Sbaenwr Roque Mesa ar fenthyg i Sevilla am weddill y tymor.