Casnewydd 0–0 Lincoln                                                                   

Gorffennodd hi’n ddi sgôr rhwng Casnewydd a Lincoln yn yr ail Adran brynhawn Sadwrn er i’r tîm cartref chwarae bron i hanner y gêm gyda deg dyn ar Rodney Parade.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe ddaeth eiliad fwyaf gyffrous y gêm yn gynnar yn yr ail hanner pan gafodd Mark O’Brien ei anfon oddi ar y cae am dacl wael ar Matt Green.

Wnaeth hynny ddim newid gormod ar y gêm, gyda’r ddau dîm yn cael cyfleoedd i’w hennill hi, ond gorffen yn gyfartal a wnaeth hi.

Mae Casnewydd yn llithro un lle i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl o ganlyniad, ddau bwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, O’Brien, Demetriou, Pipe, Tozer (Bennett 8’), Labadie, Dolan, Butler, McCoulsky (Amond 71’), Nouble

Cerdyn Melyn: Labadie 39’

Cerdyn Coch: O’Brien 53’

.

Lincoln

Tîm: Vickers, Eardley, Waterfall, Raggett, Habergham, Anderson, Woodyard, Bostwick, Arnold (Knott 75’, Green, Rhead (Palmer 69’)

Cardiau Melyn: Raggett 43’, Rhead 66’, Bostwick 73’, Waterfall 79’

.

Torf: 3,518