Reading 2–2 Caerdydd
Sgoriodd Caerdydd ddwy gôl hwyr yn Stadiwm Madejski nos Fawrth i achub pwynt yn erbyn Reading yn y Bencampwriaeth.
Roedd yr Adar Gleision ddwy gôl er ei hôl hi ar hanner amser ond sgoriodd Joe Bennett a Lee Tomlin yn y munudau olaf i sicrhau pwynt i dîm Neil Warnock.
Aeth Reading ar y blaen wedi chwarter awr pan beniodd Callum Peterson i’w rwyd ei hun o gic gornel Liam Kelly.
Cic gornel gan Kelly a arweiniodd at ail gôl y tîm cartref toc cyn yr egwyl hefyd wrth i gyn chwaraewr Abertawe, Modou Barrow, ddyblu’r fantais. Methodd Caerdydd a chlirio’r bêl yn ddigon da a gwyrodd foli Barrow oddi ar Bennett ac heibio i Neil Etheridge yn y gôl.
Roedd y sgôr hanner amser braidd yn gamarweiniol ond wnaeth yr Adar Gleision ddim rhoi’r ffidl yn y to a hwy oedd y tîm gorau o dipyn wedi’r egwyl.
Cafodd Junior Hoilett gyfle da i dynnu un yn ôl yn gynnar yn yr hanner ond adlamodd ei beniad dros y trawst a bu rhaid aros tan y munudau olaf am y goliau.
Saith munud o’r naw deg a oedd ar ôl pan anelodd Bennett foli gadarn i gefn y rhwyd wedi i’r bêl gael ei chlirio i’w lwybr ar ochr y cwrt cosbi.
Roedd y sgôr yn gyfartal yn y munud cyntaf o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, adlamodd peniad Sol Bamba oddi ar y trawst i gyfeiriad Tomlin yn y cwrt cosbi ac fe sgoriodd yntau gyda tharan o ergyd.
Bu bron i Paul McShane adfer mantais Reading gyda chyffyrddiad olaf y gêm ond tarodd ei beniad yn erbyn y postyn yn y chweched munud o amser brifo.
Mae Caerdydd yn aros yn ail yn nhabl y Bencampwriaeth, bedwar pwynt tu ôl i Wolves ar y brig.
.
Reading
Tîm: Mannone, Bacuna, McShane, Moore, Gunter, van der Berg, Edwards, Aluko (Popa 88’), Kelly (Bodvarsson 83’), Barrow, Kermorgant
Goliau: Paterson [g.e.h.] 16’, Barrow 41’
Cardiau Melyn: Kelly 51’, Bacuna 87’
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison (Peltier 34’), Bamba, Paterson (Tomlin 79’), Damour, Ralls, Bennett, Hoilett, Mendez-Laing, Bogle (Feeney 81’)
Goliau: Bennett 83’, Tomlin 90+1’
Cerdyn Melyn: Bogle 33’
.
Torf: 16,670