Mae rheolwr tîm pêl-droed Arsenal, Arsene Wenger wedi cyfaddef fod Abertawe wedi codi ofn arnyn nhw yn Stadiwm Emirates brynhawn Sadwrn.
Ond y Saeson aeth â’r triphwynt yn y pen draw, wrth ennill y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr o 2-1.
Roedd yr Elyrch yn ddi-guro mewn tair allan o bum gêm flaenorol yn y stadiwm, ac fe aethon nhw ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i gôl gan y cefnwr chwith Sam Clucas.
Ond ar ôl yr egwyl, y Saeson gafodd y gorau o’r meddiant wrth i Sead Kolasinac rwydo o fewn chwe munud i unioni’r sgôr.
Y Cymro Aaron Ramsey gipiodd y fuddugoliaeth ddeng munud cyn y chwiban olaf, a’r sgoriwr cyntaf yn croesi’r bêl.
‘Llafurus’
Dywedodd Arsene Wenger: “Ar yr hanner, roedd modd i fi fod yn llawn ofn oherwydd roedden ni ar ei hôl hi o 1-0 ac ro’n i’n gwybod fod Abertawe wedi ildio un gôl yn unig oddi cartref drwy gydol y tymor.”
Ychwanegodd mai rhoi’r Elyrch o dan fwy o bwysau oedd y flaenoriaeth yn yr ail hanner.
“Yn yr hanner cyntaf, roedden ni’n dominyddu ond roedden ni braidd yn llafurus, yn rhy araf ein gêm.”
Tymor anodd yr Elyrch yn parhau
Mae’r golled yn golygu y gallai’r Elyrch fod yn y safleoedd disgyn ar ddiwedd y penwythnos.
Hon oedd eu chweched colled y tymor hwn, ac roedd y prif hyfforddwr Paul Clement yn feirniadol o ddiffyg canolbwyntio ei dîm.
“Fe chwaraeon ni’n dda yn yr hanner cyntaf, roedd hi bob amser yn mynd i fod yn brawf anodd dod yma heddiw.
“Mae gan Arsenal gynifer o chwaraewyr ymosodol o safon sy’n chwarae mewn cyfuniadau cyflym yn y bocs ac o’i amgylch.
“Rhaid i chi ganolbwyntio, nid am 45 munud yn unig ond y gêm gyfan. Ro’n i’n credu ein bod ni wedi gwneud yn dda yn yr hanner cyntaf o ran hynny ac fe fanteision ni ar ein cyfle wrth wrth-ymosod, sef lle’r oedden ni’n credu y bydden ni’n cael ein cyfleoedd.”