Mae Owain Tudur Jones wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Inverness sy’n chwarae yn Uwchgynghrair yr Alban.

Cytunodd y chwaraewr canol cae i adael Norwich ac arwyddo i’r tîm sy’n chwarae i Inverness am gyfnod o flwyddyn.

Mae Jones, sydd wedi ennill Chwe chap dros Gymru, ar fin teithio i’r gogledd er mwyn cwblhau’r contract, ac fe allai wneud ymddangosiad ddydd Sadwrn yn eu gêm gartref yn erbyn Hibernian.

Roedd ganddo 12 mis yn weddill ar ei gytundeb gyda Norwich, ond chwaraeodd ddwy gêm yn unig i’r clwb y tymor diwethaf.

Ymunodd â Norwich o Abertawe yn 2009, ac fe dreuliodd gyfnodau byr ar fenthyg gyda Brentford a Yeovil y llynedd.

Chwaraeodd i Gymru ym mis Mai pan gollwyd 3-1 yn erbyn yr Alban yng Nghwpan Cenhedloedd Carling yn Nulyn.