Michael Chopra
Mae yna adroddiadau bod Caerdydd yn ystyried cynnig gan Ispwich am eu hymosodwr Michael Chopra.

Roedd son y byddai chwaraewr yr Adar Glas yn cael ei drosglwyddo i Ipswich oedd Roy Keane wrth y llyw yn Portman Road y llynedd.

Yn y cyfamser mae Paul Jewell wedi cymryd yr awenau yn Ipswich ond mae e hefyd yn edmygu Chopra.

Mae Caerdydd eisoes wedi colli Jay Bothroyd yr haf yma ar ôl iddo fethu ag arwyddo cytundeb newydd i aros yn y brifddinas.

Mae Craig Bellamy a Jay Emmanuel-Thomas wedi dychwelyd i’w clybiau nhwythau yn dilyn cyfnodau ar fenthyg.

Pe bai Chopra yn gadael, Jon Parkin a Nathaniel Jarvis fyddai yr unig ymosodwyr yn weddill ym mhrif garfan yr Adar Glas.

Ymunodd Michael Chopra gyda Chaerdydd am yr ail dro yn 2009 ar ôl i’r clwb o Gymru dalu £4 miliwn i Sunderland amdano.