Mae amddiffynnwr Abertawe, Neil Taylor, wedi colli ei apêl yn erbyn ei garden goch yng nghymal cyntaf y gemau ail gyfle yn erbyn Nottingham Forest.

Mae’r Cymro ifanc wedi ei wahardd am dair gêm sy’n golygu na fydd ar gael i chwarae yn yr ail gymal heno na’r rownd derfynol yn Wembley pe bai’r Elyrch yn ennill heno.

Fe gafodd Taylor ei anfon o’r maes wedi munud o’r cymal cyntaf yn y City Ground yn dilyn tacl uchel ar Lewis McGugan.

Ar ôl adolygu’r fideo, fe benderfynodd Abertawe apelio yn erbyn y garden goch.

Ond yn ystod gwrandawiad y bore ‘ma, fe benderfynodd Cymdeithas Bêl Droed Cymru wrthod yr apêl.