Dywed rheolwr y Seintiau Newydd y bydd y gêm fawr yn erbyn Bangor y prynhawn yma’n hysbyseb wych i Uwch Gynghrair Cymru.
Mae’r Seintiau Newydd ar frig y tabl un pwynt ar y blaen i Fangor, a oedd yn arwain y gynghrair o 14 pwynt yn gynharach yn y tymor.
“Mae Bangor wedi bod yn wych trwy’r tymor ac mae llawer yn y fantol,” meddai Mike Davies. “Mae hi am fod yn gêm i’w mwynhau.”
Mae’r Seintiau’n mynd i’r gêm yn union yr un sefyllfa ag oedden nhw’r llynedd, pryd y gwnaethon nhw gipio coron y gynghrair trwy guro Aberystwyth 3-1 yng ngêm olaf y tymor.
Fe fydd gêm gyfartal y prynhawn yma’n ddigon iddyn nhw gadw’r teitl am flwyddyn arall.
Er gwaetha’u llwyddiant yn gynharach y tymor, dyw Bangor ond wedi ennill dwywaith yn yr wyth gêm ddiwethaf.
Dyw’r Seintiau Newydd, fod bynnag, ddim wedi colli ond un gêm ers ddechrau mis Hydref, pryd y gwnaeth Bangor eu curo 4-3.
Fe fydd y gêm gyffrous yn cychwyn am 3.30 y prynhawn yma.