Bangor yn gobeithio ailadrodd dathlu'r llynedd
Port Talbot 1 Bangor 2

Y Drenewydd 1 Aberystwyth 0

Hwlffordd 0 Airbus 2

Fe allai’r gystadleuaeth am bencampwriaeth yr Uwch Gynghrair Cymreig fynd i gêm ola’r tymor ar ôl i Fangor ennill ym Mhort Talbot.

Mae hynny’n rhoi clwb y ddinas o fewn pwynt i’r Seintiau Newydd ar y brig, gyda dwy gêm ar ôl a’r ddau dîm yn cwrdd yn yr ola’ o’r rheiny.

Ar ôl colli tir dychrynllyd yng nghanol y tymor, mae gan Fangor obaith unwaith eto o gael dwbl y Cwpan a’r Gynghrair ar ôl i’r Seintiau Newydd golli i Gastell Nedd neithiwr.

Ym mhen arall y gynghrair, yn y chwech isa’, mae’r Bala mewn mwy o beryg fyth o orfod gadael y Gynghrair ar ôl i’r Drenewydd guro Aberystwyth o 1-0.

Fe fethodd Aber gic o’r smotyn ac mae hynny’n golygu eu bod nhwthau’n gorfod ildio’u lle ar frig ail hanner y tabl. Airbus sydd bellach yn y safle hwnnw ar ôl curo Hwlffordd o 2-0 – mae’r tîm o Sir Benfro’n gwybod eisoes eu bod ar y ffordd i lawr.