Birmingham 1–0 Caerdydd   
                                                          

Sgoriodd Che Adams unig gôl y gêm wrth i Birmingham guro Caerdydd yn St Andrew’s yn y Bencampwriaeth nos Wener.

Mae’r Adar Gleision yn aros ar frig y tabl er gwaethaf y golled, er y gall hynny newid wedi gemau dydd Sadwrn.

Ychydig llai nag ugain munud a oedd ar y cloc pan agorodd Adams y sgorio i’r tîm cartref yn dilyn cliriad gwael Neil Etheridge. Yn dilyn cic wael gan golwr Caerdydd fe redodd Adams gyda’r bêl o’r llinell hanner cyn canfod cornel isaf y rhwyd gyda’i ergyd.

Cafodd Adams gyfle i ddyblu fantais ei dîm yn yr ail hanner, ac felly hefyd Jacques Maghoma, ond roedd un gôl yn ddigon i’r tîm cartref.

Mae’r Adar Gleision yn aros ar frig y Bencampwriaeth am y tro, ond gall Wolves godi drostynt gyda phwynt yn erbyn Aston Villa nos Sadwrn.

.

Birmingham

Tîm: Kuszczak, Colin, Morrison, Roberts, Grounds, Davis (Gallagher 90+6’), Kieftenbeld, Adams (Jutkiewicz 90+1’), Ndoye, Maghoma (Gardner 90+6’)

Gôl: Adams 19’

Cardiau Melyn: Davis 60’, Kieftenbeld 62’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Bamba, Mendez-Laing, Bryson (Gunnarsson 68’), Ralls (Ward 81’), Hoilett (Feeney 81’)

Cerdyn Melyn: Bryson 62’

.

Torf: 19,059