Ian Rush
Cymro oedd Ben Woodburn erioed, yn ôl un o fawrion pêl-droed Cymru, Ian Rush.
Mae’r cyn-ymosodwr wedi dweud nad oedd bwriad gan y chwaraewr 17 oed gynrychioli Lloegr, y wlad lle cafodd ei eni.
Yn hytrach, roedd ei fryd ar gynrychioli gwlad ei daid, ac fe ddaeth oddi ar y fainc am y tro cyntaf neithiwr a sgorio’r gôl fuddugol wrth i Gymru guro Awstria o 1-0 yng Nghaerdydd i gadw eu gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn fyw.
Bedair munud yn unig gymerodd hi iddo sgorio ar ôl dod i’r cae yn eilydd.
Hanes
Fe greodd Ben Woodburn hanes eisoes pan sgoriodd ei gôl gyntaf i Lerpwl yn erbyn Leeds yng Nghwpan yr EFL fis Tachwedd diwethaf – y sgoriwr ieuengaf erioed yn hanes y clwb.
Fe arweiniodd hynny at adroddiadau bod Lloegr yn bwriadu ceisio ei ddenu i aros yr ochr draw i Glawdd Offa.
Roedd e eisoes wedi cael cynnig cyn hynny i gynrychioli tîm ysgolion Lloegr yn 2014.
Ond fe ddywedodd ym mis Mai nad oedd e erioed wedi ystyried chwarae dros Loegr.
Dywedodd Ian Rush wrth Radio 5 Live: “Dw i’n gwybod fod Lloegr ar ei ôl e rai blynyddoedd yn ôl ond mae e’n Gymro mor angerddol.
“Fe wnaeth Chris Coleman roi cyfle iddo fe ac fe dalodd ar ei ganfed.”
Ac fe wnaeth Ian Rush ganmol ei agwedd, gan ddweud ei fod e’n “cadw ei draed ar y ddaear”.
“O chwarae gyda chwaraewyr fel Aaron Ramsey a Gareth Bale, dw i’n credu ei fod e nawr yn sylweddoli sut fyd yw e.”
Amynedd
Ond mae’n rhybuddio y bydd yn rhaid iddo fe fod yn amyneddgar.
“Mae e wedi achub ar ei gyfle ond rhaid iddo fe fod yn amyneddgar eto oherwydd dyw pethau ddim yn digwydd dros nos, a rhaid iddo fe sylweddoli na fydd e fwy na thebyg yn dechrau nos Fawrth.”
Fe fydd Cymru’n herio Moldofa oddi cartref nos Fawrth am 7.45pm.