Malcolm Allen (Llun: S4C)
Mae Cymru yn y trydydd safle yn eu grwp, bedwar pwynt tu ôl i Iwerddon sy’n ail a Serbia sydd ar y brig. Os y byddan nhw’n colli yn erbyn Awstria yng Nghaerdydd heno, yna, fe gewch chi anghofio am Gwpan y Byd 2018 yn Rwsia.
Cafodd Gymru gêm gyfartal 2-2 yn Fienna ym mis Hydref 2016 , gêm arall yn yr ymgyrch y dylai’r tim fod wedi’i hennill, yn ôl nifer o sylwebwyr…
“Dw i’n gobeithio fod pawb yn y garfan wedi sylweddoli mai hon ydi’r gêm mae’n rhaid i ni ennill,” meddai Malcolm Allen wrth golwg360.
“Mae fel tasan wedi bod yn gyfforddus ers yr Ewros yn Ffrainc. Rydan yn agos i fynd allan o’r gystadleuaeth hon, ac ar ôl haf diwethaf mi fyddan siom enfawr i bawb, yn enwedig y chwareuwyr eu hunain. Beth am beidio difaru, ‘de?”
Penderfyniad i’w neud
“Gyda’r chwaraewr canol cae Stoke, Joe Allen allan o’r gêm, ac anaf i Emyr Huws, mae canol cae ni wedi cael ergyd, hefyd gyda diffyg ffitrwydd Joe Ledley – mae penderfyniad i’w neud gan Chris Coleman.
“Fy hun, mi faswn i’n dechrau Joe a gweld sut mae’n mynd… dw i’n sicr y gallan ni gael awr allan ohono fo… Mi fydd yr hyfforddwyr wedi bod yn ei asesu fo’n fanwl o ddydd i ddydd.
“Yn y llinell flaen, Hal Robson-Kanu i fi, bydd yn achosi mwy o broblemau i amddiffynwyr Awstria oherwydd ei gyflymdra, ac mae Sam Vokes yn un da i ddod ar y cae fel eilydd pe baen ni angen gôl neu newid steil o chwarae.
“Hefyd, yn dibynnu ar ba system y bydd Chris Coleman wedi’i dewis, mae’n bosib y bydd Ben Woodburn yn dechrau,” meddai Malcolm Allen wedyn
“Beth bynnag fydd y canlyniad nos Sadwrn, mi fydd Joe Allen yn gorfod dechrau nos Fawrth allan yn Chisinau, Moldofa. O ran Aaron Ramsey, hyd yn oed bod Arsenal wedi cael crasfa gan Lerpwl dydd Sadwrn a nifer yn eu beirniadu bydd Aaron ddim yn gadael i’r sefyllfa effeithio fo, bydd yn falch i fod mewn amgylchedd cyfarwydd.”
Profiad
“Dw in falch o weld rhai ifanc fel Ethan Ampadu yn cael cyfle i ymuno â’r garfan – yn sicr mi fydd yn dysgu gan yr amddiffynwyr profiadol fel Ashley Williams a James Collins. Tybed a gaiff gyfle mewn gêm cyn diwedd yr ymgyrch? Mae’n dibynnu ar sefyllfa’r grŵp…
“Mae’n rhaid i fi grybwyll Chris Gunter hefyd,” meddai Malcolm Allen.
“Dw i’n siŵr mai fo fydd y chwaraewr cyntaf i ennill 100 o gapiau i Gymru. Mae o ar 79 ar hyn o bryd, chwech y tu ôl i’r ddiweddar Gary Speed, ac 13 tu ôl i Neville Southall.
“Mae’n chwaraewr cyson, mae hi bob tro’n bosib dibynnu arno fo, ac mae ganddo fo ymroddiad arbennig i’w waith fel pêl-droediwr.”
Gweddill gemau Cymru
Medi 5 – Moldofa v Cymru
Hydref 6 – Georgia v Cymru
Hydref 9 – Cymru v Iwerddon
Bydd Malcolm Allen yn rhan o dîm sylwebu S4C nos Sadwrn, Medi 2 am 7.15yh.