Clwb pel-droed Treffynnon
Mae Cynghrair Cymru Alliance yn dechrau ddydd Sadwrn ac mae tua phum tîm yn obeithiol o efelychu camp Prestatyn o gael dyrchafiad i Uwchgynghrair Cymru y tymor diwethaf.
Un o’r timau ydy Treffynnon. Heb os, maen nhw wedi gweld cynnydd ar, ac oddi ar, y cae dros y blynyddoedd diwethaf.
Ar ddiwedd tymor 2001-02, ar ôl bron a disgyn i’r ail adran, mi benderfynodd y clwb ymadael a chwaraewyr dros y ffin a chanolbwyntio ar chwaraewyr lleol.
Ar ôl gorffen yn 9fed yng Nghynghrair Cymru Alliance yn 2004/05 ddisgynnodd i’r ail adran. Enillodd tlws Cymdeithas pêl-droed Cymru yn nhymor 2010/11 ac mi fethodd cael dyrchafiad o drwch blewyn ar ôl gorffen tu ôl i Hotspur Caergybi, Caernarfon a Dinbych.
Roedd tymor 2013/14 yn un fythgofiadwy pan aeth y clwb o’r drydedd reng gan gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru. Roedd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ond Aberystwyth o’r Uwchgynghrair oedd yn fuddugol. Roedd y rhediad wedi rhoi’r clwb ar lwyfan y byd pêl-droed.
Tymor 2014-15 oedd un o’r rhai gorau yn hanes y clwb pan enillodd dair cystadleuaeth sef y gynghrair i ennill dyrchafiad i Gynghrair Cymru Alliance, lle orffennodd 15 pwynt yn glir. Enillodd tlws Cymdeithas pêl droed Cymru am yr ail waith yn ddiweddar, ac enillodd cwpan her Mawddach i gyflawni triawd hanesyddol.
Cymryd y camau cywir
“Nod y clwb yw ennill dyrchafiad i’r Uwchgynghrair ond dy’n ni ddim yn barod eto,” meddai ysgrifennydd y clwb Steve Roberts,wrth Golwg360.
“Rydan ni wedi cymryd y camau cywir dros y pedair blynedd ddiwethaf, gan wario swm sylweddol ar y cae, ac wedi adeiladu eisteddle newydd sydd â lle i 250, a’r hyn rydan ni’n neud ydy ticio’r bocsys i fod yn barod am ddyrchafiad.
“Bydd yn dymor cystadleuol gyda nifer o glybiau cryf yn y gynghrair, fel Caernarfon, Porthmadog, Y Rhyl, Airbus, Dinbych a Gresffordd. Mae’n gynghrair dda gyda thorfeydd mawr , fel gwelson ni’r tymor diwethaf, roedd Caernarfon – Port gyda dros fil ac roedd 800 wedi gwylio ni a Fflint. Ond bechod bod Rhaeadr wedi gorfod gadael y gynghrair yn ddiweddar oherwydd trafferthion.
“Mae gan ein rheolwr, John Haseldin ddigon o brofiad, mae wedi chwarae i ni a Fflint yn y gynghrair, a’n sicr gyda’r ymosodwr profiadol Steve Lewis a Shaun Tuck yn arwain y llinell flaen gobeithio bydd goliau yn y tîm,” meddai.
Mae Lewis wedi chwarae yn yr Uwchgynghrair i’r Rhyl a Bangor ac mae wedi ail-ymuno a’r clwb lle’r oedd yn chwarae yn 2015 ble sgoriodd 13 gôl mewn 18 ymddangosiad.
Mae Treffynnon yn dechrau’r tymor oddi cartref yn Ninbych cyn wynebu’r Rhyl gartref ar 19 Awst.