Fe fydd tîm pêl-droed Caerdydd yn dechrau tymor 2017-18 gyda thaith i Burton Albion ar Awst 5.

Bydd gandyn nhw gêm gartref yn erbyn Portsmouth yng Nghwpan EFL dridiau’n ddiweddarach, cyn croesawu Aston Villa i’r brifddinas ar Awst 12.

Byddan nhw’n teithio i Bolton ddeuddydd cyn y Nadolig, cyn croesawu Fulham i Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ddydd San Steffan.

Gêm gartref yn erbyn Preston North End sydd ganddyn nhw ar Ragfyr 30, cyn teithio i Queen’s Park Rangers ar Ddydd Calan.

Hull fydd eu gwrthwynebwyr ar gyfer eu gêm oddi cartref ola’r tymor ar Ebrill 28, gan ddirwyn y tymor i ben gyda gêm gartref yn erbyn Reading ar Fai 6.

Rhestr lawn o’r gemau.