Stadiwm Liberty
Mae disgwyl awyrgylch parti yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma wrth i Abertawe herio West Brom, gan wybod eu bod nhw’n ddiogel yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall, doed a ddêl.

Ond pe na baen nhw wedi curo Sunderland yn y Stadium of Light yr wythnos diwethaf, gan selio tynged Hull, fe allai’r stori fod wedi bod yn wahanol iawn heddiw.

Ac ar ôl cyfaddef fod y chwaraewyr yn teimlo “rhyddhad”, mae Jack Cork, sydd wedi bod yn arwain y tîm ar y cae am gyfnodau helaeth y tymor hwn, yn cyfaddef mai hwn yw ei dymor mwyaf anodd erioed.

Dywedodd: “Dw i wedi disgyn [o’r Uwch Gynghrair] o’r blaen, pan o’n i gyda Burnley [ar ddiwedd tymor 2009-10], ond dim ond ar fenthyg o’n i felly mae’n wahanol pan y’ch chi’n rhan o dîm.

“Felly byddwn i’n dweud mai hwn yw’r flwyddyn fwyaf anodd mor belled oherwydd ry’n ni’n gwybod y gallwn ni wneud dipyn gwell. Roedd hi’n beryglus ar adegau a gobeithio na fydd yn digwydd eto.”

Cefnogwyr

Bydd y gêm heddiw’n gyfle, yn ôl Jack Cork, i ddiolch i’r cefnogwyr ar ddiwedd tymor digon pryderus, sydd wedi gweld tri rheolwr yn arwain y tîm – Francesco Guidolin, Bob Bradley a Paul Clement.

Fe fu’n gyfnod cythryblus oddi ar y cae hefyd, gyda’r Americanwyr Steve Kaplan a Jason Levien yn prynu’r clwb ac yn cael eu gwrthwynebu’n gryf gan rai cefnogwyr ers y dechrau’n deg.

Ond bydd cyfle heddiw i anghofio’r cyfan oll, a gwerthfawrogi’r ffaith fod sefydlogrwydd o dan Paul Clement yn golygu bod Abertawe’n wynebu seithfed tymor yn y gynghrair uchaf un.

Ychwanegodd Jack Cork: “Yn ffodus, roedd y cyfan ar ben ac roedd modd mwynhau, a byddwn ni’n mwynhau ddydd Sul ac yn diolch i’r cefnogwyr am eu cefnogaeth, a bydd fy nheulu ar y cae hefyd.

“Mae’n braf. Mae’r tywydd fel arfer yn braf hefyd, bydd pawb yn hapus a bydd yr awyrgylch yn dda.”

Gorffen yn gryf

Fe allai buddugoliaeth y prynhawn yma godi’r Elyrch uwchben Burnley a Watford, ac mae modd iddyn nhw orffen yn drydydd ar ddeg yn y tabl.

Dywedodd Jack Cork y byddai hynny’n “arbennig” o ystyried fod yr Elyrch wedi ennill 12 pwynt yn unig cyn i Paul Clement gael ei benodi’n brif hyfforddwr dros y Flwyddyn Newydd.

“Byddai gorffen uwchben y math yna o dimau’n ail hanner gwych i’r tymor.”

Rhybudd am ‘fflyrtio â pherygl’

Ond mae Jack Cork hefyd yn rhybuddio na all Abertawe barhau i orffen yng ngwaelodion yr Uwch Gynghrair os ydyn nhw am aros yno am dymhorau i ddod, gan gyfeirio at dranc Wigan a Sunderland.

“Mae angen i ni ddod o hyd i rywfaint o gysondeb a dw i’n sicr y bydd y rheolwr, y tymor nesaf, yn cynnig hynny.

“Allwn ni ddim parhau i fflyrtio â pherygl. Ry’ch chi wedi gweld hynny dipyn gyda Wigan a Sunderland. Mae angen i ni ddechrau’r tymor yn well.