Emlyn Lewis, Met Caerdydd (Llun: Graham Haines)
Fe fydd timau pêl-droed Met Caerdydd a Bangor yn herio’i gilydd y prynhawn yma am le yn Ewrop y tymor nesaf.

Mae bonws ariannol o €215,000 i’r enillwyr yn ogystal.

Hanes

Met Caerdydd fyddai’r tîm cyntaf erioed o fyfyrwyr i gyrraedd cystadleuaeth Ewropeaidd.

Bydden nhw’n sicrhau eu lle yn rownd gyntaf ragbrofol Cynghrair Ewropa.

Gorffennodd y tîm yn y chweched safle yn yr Uwch Gynghrair eleni, ac mae cyn-amddiffynnwr Abertawe a Chymru’n Gyfarwyddwr Pêl-droed y clwb.

Llwyddodd Bangor i gyrraedd rownd derfynol gemau ail-gyfle Uwch Gynghrair Cymru drwy guro’r Drenewydd o 3-2, a’r myfyrwyr wedi curo Caerfyrddin o 2-1.

Dydy Bangor ddim wedi cystadlu yn Ewrop ers tair blynedd pan gollon nhw o 8-0 yn erbyn Stjarnan o Wlad yr Iâ.

Pe bai’r myfyrwyr yn fuddugol, fe fyddan nhw’n cyrraedd Ewrop ar ddiwedd eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.

Bangor v Met Caerdydd – gemau’r gorffennol

Mae’r ddau dîm eisoes wedi herio’i gilydd bum gwaith y tymor hwn, gyda thair buddugoliaeth i Fangor a dwy i’r myfyrwyr.

Byddai buddugoliaeth i Fangor yn gam tuag at ail-greu rhai o ddyddiau euraid y gorffennol, pan herion nhw Napoli ac Atletico Madrid yn y 1960au a’r 1980au.

Cyrhaeddon nhw drydedd rownd ragbrofol Cynghrair Ewropa yn 2010-11 drwy guro FC Honka o’r Ffindir.

Maen nhw wedi cyrraedd cystadlaethau Ewrop 15 o weithiau, gan chwarae mewn 35 o gemau i gyd.

Canlyniadau’r gemau blaenorol

Met Caerdydd 2-3 Bangor (09/04/17)
Bangor 3-2 Met Caerdydd (18/02/17)
Met Caerdydd 4-0 Bangor (19/11/16)
Bangor 2-1 Met Caerdydd (02/10/16)

Bydd y gêm yn fyw ar S4c am 5 o’r gloch heno, gyda rhaglen Sgorio yn dechrau am 4.30pm.

Bydd yr holl drafod i’w weld ar Facebook Live Sgorio a gwefan s4c.cymru