Cerdd gan Sean Edwards (Llun: South Wales Argus)
Mae gweithiwr dur sy’n cefnogi tîm pêl-droed Casnewydd wedi ysgrifennu cerdd i nodi eu llwyddiant brynhawn ddoe wrth aros yn y Gynghrair Bêl-droed am dymor arall.

Mae Sean Edwards yn gweithio yng ngweithfeydd dur Llanwern, ac fe luniodd y gerdd ‘Hope, despair and joy’ ar ôl y gêm yn erbyn Notts County wrth i’w dîm sicrhau buddugoliaeth o 2-1 yn Rodney Parade.

Mae’r gerdd yn canmol y rheolwr Michael Flynn, sydd wedi achub y clwb ar yr unfed awr ar ddeg.

Daw’r gerdd hon ar ôl ei gyfansoddiad cyntaf, ‘The Great Escape’ a gafodd ei ysgrifennu cyn y gêm.

Mae e’n cefnogi Casnewydd ers y 1970au ac wedi bod yn dyst i rai o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y clwb, gan gynnwys buddugoliaethau yn Ewrop a Chwpan yr FA.