Bournemouth 2–0 Abertawe
Mae Abertawe’n ôl mewn trafferth tua gwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Bournemouth nos Sadwrn.
Llithrodd yr Elyrch yn ôl tuag at safleoedd y gwymp wedi wrth golli o ddwy gôl i ddim yn Dean Court.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi hanner awr o chwarae pan wyrodd Alfie Mawson ergyd Benik Afobe i’w rwyd ei hun.
Dyblodd Afobe y fanatis yn yr ail hanner, yn gorffen yn daclus wedi gwaith creu Josh King.
Gylfi Sigurdsson a ddaeth agosaf i’r Elyrch ond llwyddodd Bournemouth i gadw llechen lân yn gymharol gyfforddus.
Mae’r canlyniad hwn ynghyd â buddugoliaeth Crystal Palace yn erbyn Watford yn rhoi Abertawe yn yr ail safle ar bymtheg yn y tabl, dri phwynt yn unig yn glir o’r safleoedd disgyn.
.
Bournemouth
Tîm: Boruc, Smith, Francis, Cook, Daniels, Fraser (Wilshere 75’), Surman, Gosling, Pugh (Ibe 90+4’), King (Gradel 90+2’), Afobe
Goliau: Mawson [g.e.h.] 31’, Afobe 72’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Fer, Fernandez, Mawson, Kingsley, Cork, Ayew (Narsingh 56’), Ki Sung-yueng (Routledge 67’), Carroll, Sigurdsson, Llorente (Baston 83’)
Cardiau Melyn: Ki Sung-yueng 40’, Cork 70’
.
Torf: 11,240