Cafodd Paul Clement ei benodi ychydig ar ôl ymweliad Bournemouth â Stadiwm Liberty nos Calan (Llun: golwg360)
Fe fydd gêm tîm pêl-droed Abertawe yn erbyn Bournemouth heno (5.30pm) yn dyst i’w datblygiad y tymor hwn, wrth iddyn nhw barhau i frwydro i gadw eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Pan gyfarfu’r ddau dîm yn Stadiwm Liberty nos Calan, roedd yr Elyrch ar waelod y tabl, a’r Americanwr Bob Bradley newydd gael ei ddiswyddo.
Alan Curtis oedd yng ngofal y tîm yn y cyfamser, ac fe gollon nhw o 3-0 yn ystod eu cyfnod gwaethaf yn y gynghrair uchaf un.
Ar y pryd, roedd Paul Clement yn is-hyfforddwr Bayern Munich ac yn ystod toriad yn nhymor y Bundesliga, fe gafodd y Sais gyfle i gadw llygad ar y sgôr rhwng Abertawe a Bournemouth, gan wybod fod dyddiau Bob Bradley yn Stadiwm Liberty yn dirwyn i ben.
Dywedodd Paul Clement: “Fe welais i’r goliau, ond welais i mo’r gêm gyfan. Dw i’n meddwl bo fi’n sgïo yn Awstria.
“Fe welais i’r goliau, ac fe gawson nhw eu hunain mewn sefyllfa wael ychydig cyn hanner amser gyda gôl flêr oedd wedi adlamu oddi ar amddiffynnwr ac fe wnaethon nhw ei gorffen hi.
“Dyna’r adeg pan benderfynodd y clwb fod rhaid iddyn nhw newid pethau.”
‘Dim amheuon’
Yn ôl Paul Clement, doedd y perfformiad na’r canlyniad y diwrnod hwnnw ddim yn ddigon i godi amheuon am symud i Abertawe.
“Nid mater o wylio’r gêm honno a meddwl ‘mae hon yn jobyn mawr’ oedd hi, ro’n i’n gwybod hynny eisoes o edrych ar y tabl ac ar ganlyniadau blaenorol.”
Yn ystod ei fis cyntaf wrth y llyw yn Ionawr, fe wynebodd tîm Paul Clement Arsenal, Lerpwl, Southampton a Manchester City.
Ychwanegodd: “Fe welais i’r gemau oedd yn dod i fyny ac yn sylweddoli beth fyddai’n ei gymryd [i aros yn yr Uwch Gynghrair], ond doedd dim peryg y byddai’n fy atal i rhag derbyn y swydd. Dyna pam ddes i.”
Cae Bournemouth
Yn wahanol i Stadiwm Liberty, mae Stadiwm Vitality Bournemouth yn fach a safon y cae dipyn gwell na’r hyn oedd gan Hull i’w gynnig i’r Elyrch yr wythnos diwethaf.
Bydd hynny, yn ôl Paul Clement, yn arwain at gêm dda.
“Mae’n braf. Mae’n well o lawer mynd i stadiwm lai sy’n llawn na stadiwm fwy o faint lle mae digon o le ar ôl, ac ry’ch chi’n gweld hynny ar y lefel uchaf.
“Y peth pwysicaf yw’r cae, ac ar ôl chwarae ar gae Hull, oedd yn wael i’r ddau dîm… Fe ddywedais i wedyn nad dyna’r rheswm pam ein bod ni wedi colli’r gêm, ond roedd yn gae gwael.
“Ry’n ni nawr yn mynd i gae da iawn ac mae hynny’n dda i’r cefnogwyr a’r bobol niwtral oherwydd mae’r ddau dîm yn hoffi chwarae pêl-droed dda.”
Y timau
Mae ymosodwr yr Elyrch, Fernando Llorente wedi gwella o anaf i’w goes ac mae disgwyl iddo ddechrau’r gêm.
Ond mae’r cefnwyr Martin Olsson ac Angel Rangel allan, sy’n golygu y bydd Connor Roberts o Gastell-nedd yn cael cyfle yn y garfan am y tro cyntaf, er bod disgwyl iddo ddechrau ar y fainc.
Mae gan Bournemouth amheuon am ffitrwydd Harry Arter a Junior Stanislas.
Mae Andrew Surman yn dychwelyd ar ôl gwaharddiad, ond mae Tyrone Mings wedi’i wahardd o hyd.