Connor Roberts - Cymro nesa'r Elyrch
Fe allai Cymro ymddangos yn nhîm pêl-droed Abertawe’n gynt na’r disgwyl, wrth i’r prif hyfforddwr Paul Clement wynebu argyfwng o ran anafiadau.
Fe adawodd y Cymro olaf, Neil Taylor am Aston Villa ym mis Ionawr, oedd yn golygu bod yr Elyrch heb Gymro yn y garfan am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer.
Ond dros yr wythnosau diwethaf, mae Connor Roberts, 21 oed o Gastell-nedd, wedi bod yn ymarfer gyda’r tîm cyntaf yn dilyn anafiadau i Angel Rangel, Kyle Naughton a Martin Olsson.
Dywedodd Paul Clement yn ei gynhadledd wythnosol y bydd yr Albanwr Stephen Kingsley yn cymryd ei le yn safle’r cefnwr chwith ar gyfer y daith i Bournemouth ddydd Sadwrn yn dilyn anaf i ffêr Martin Olsson, sydd wedi bod ar dân yn ddiweddar gyda dwy gôl allweddol.
Mae Angel Rangel allan am weddill y tymor yn dilyn llawdriniaeth ar ôl iddo dorri asgwrn yn ei droed, ac mae disgwyl i Kyle Naughton fod yn holliach i chwarae yn safle’r cefnwr de yn ei le yn dilyn ei anaf yntau i linyn y gâr yn Hull.
Connor Roberts
Ond mae’r anafiadau’n golygu bod bwlch yn y garfan.
Mae’n debygol mai lle ar y fainc gaiff Connor Roberts, sydd wedi bod yn aelod pwysig o’r garfan dan 23 y tymor hwn wrth iddyn nhw ennill y gynghrair a chyrraedd rownd gyn-derfynol y Cwpan Rhyngwladol, lle byddan nhw’n herio Porto ymhen naw diwrnod.
Mae e eisoes yn codi drwy rengoedd Cymru, gan ennill dau gap dros y tîm dan 21, ond prin fu ei gyfleoedd yn Abertawe tan nawr.
Mae e wedi chwarae’r rhan fwyaf o’i bêl-droed ar fenthyg – gyda Yeovil y tymor diwethaf, gan golli un gêm drwy’r tymor oherwydd ei ymrwymiadau i Gymru, ac yna gyda Bristol Rovers ddechrau’r tymor hwn.
Arbrofi
Yn dilyn ymadawiad Neil Taylor ym mis Ionawr, dywedodd Paul Clement wrth Golwg360 fod brwydr yr Elyrch i aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn yn golygu mai prin fyddai’r cyfleoedd i chwaraewyr o Gymru yn y garfan.
Ond fe fu’n rhaid iddo gyfaddef ddoe nad oedd fawr o ddewis ganddo ond dibynnu ar rai o’r chwaraewyr ifainc yn ystod cyfnod anodd oherwydd anafiadau.
Ac fe gyfaddefodd hefyd nad yw’n sicr fod Connor Roberts yn barod ar gyfer holl ofynion yr Uwch Gynghrair.
“Dim ond pan fyddan nhw’n chwarae fyddwch chi’n gwybod hynny,” meddai wrth Golwg360.
“Dw i wedi ei weld e’n chwarae rywfaint. Mae e’n gallu chwarae fel cefnwr de neu chwith.
“Fe gafodd e rywfaint o brofiad allan ar fenthyg, ac ry’n ni’n gwybod fod hwn yn gam mawr. Bydd rhaid i ni weld [a yw e’n barod].
“Dyma’i wythnos lawn gyntaf yn ymarfer gyda ni. Mae hynny ynddo’i hun yn brawf, i ddod i fyny o’r tîm dan 23 a chwarae gyda’r bois mawr, os liciwch chi, bob dydd wrth ymarfer.
“Ond mae e wedi bod yn gwneud yn dda.”
Penbleth
Mae Paul Clement yn dweud bod sefyllfa bresennol Abertawe’n peri penbleth iddo fe, a’i dîm yn brwydro o hyd i aros yn yr Uwch Gynghrair.
“Mae’n anodd. Cael cydbwysedd yw’r peth pwysig wrth ddyrchafu chwaraewyr.
“Y penbleth sydd gyda chi yw hyn: a ydych chi’n dewis rhywun ifanc heb brofiad o chwarae dan y fath bwysau, neu ydych chi’n dewis chwaraewr mwy profiadol ond sydd heb brofiad o chwarae yn y safle hwn?
“Dyna’r penderfyniad sydd raid i chi ei wneud.”