Ar ôl colli yn erbyn Caerfyrddin yr wythnos ddiwethaf – eu cyntaf ers 31 o gemau – mae’r Seintiau Newydd yn gobeithio taro nôl ddydd Sul yn erbyn y tîm o Paisley, St Mirren.
Fe gyrhaeddodd Y Seintiau Newydd rownd gyn-derfynol Cwpan IRN-BRU ar ôl curo Forfar Athletic o Adran 2 a Livingston o Adran 1 yn y rowndiau blaenorol, felly bydd y Seintiau’n eithaf cyfarwydd â beth i’w ddisgwyl. Mae Livingston ar frig Adran 1, a St Mirren yn cael hunllef o dymor yng ngwaelodion y Bencampwriaeth.
Mi fydd cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones, yn rhan o dîm sylwebu Sgorio ar gyfer y gêm, ac yntau wedi chwarae yn yr Alban i dimau Inverness Caledonian Thistle, Hibernian a Falkirk.
Dywedodd: “O nabod tîm hyfforddi’r Seintiau, mi fyddan nhw’n brifo ar ôl y canlyniad yng Nghaerfyrddin. Er nad oes neb yn meddwl y gallwch chi fynd tymor heb golli gêm, i golli’n Chwefror, rwy’n siŵr oedd o’n dipyn o fraw.
“Hefyd ar ôl rhoi cweir i Livingston, pe bai St Mirren yn cymryd y Seintiau’n ysgafn mi geithan nhw fraw hefyd. Mae tymor St Mirren wedi bod yn erchyll, felly posib mai’r gwpan hon fydd eu cyfle i fynd i’r ffeinal a rhoi rhyw fath o gysur i’w cefnogwyr.
“Ac wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn sicr mae unrhyw glwb am gymryd y gwpan o ddifri, ac rwy’n sicr na fydd St Mirren eisiau colli i dîm o Gymru.”
Ehangu’r gwpan
Gyda thimau o Gymru wedi ymuno â’r gwpan y tymor hwn a chadarnhad bod dau glwb o Iwerddon ynddi dymor nesa’, mae Owain Tudur Jones yn sicr bod yn gwpan yn werthchweil.
“Mae chwarae yn erbyn safonau, diwylliant ac arddull gwahanol yn beth da i bawb. Eto, pe bai tîm o du allan i’r Alban yn curo’r gwpan posib bydd clybiau’r Alban ddim mor hapus â’r sefyllfa yn y dyfodol.”
Pe bai’r Seintiau yn curo St Mirren byddan nhw’n wynebu Queen of the South neu Dundee United yn y rownd derfynol ym mis Mawrth.
Mae’r gêm yn fyw ar S4C, ddydd Sul 19 Chwefror gyda’r rhaglen yn dechrau am 3.45pm.