Leo Smith
Mae Leo Smith, chwaraewr canol cae 18 oed o Borthmadog, wedi arwyddo ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda Wrecsam.
“Rydan ni gyd yn y clwb yn falch iawn dros Leo, Cymro Cymraeg,” meddai Spencer Harris. “Mae’n chwaraewr cyffrous iawn ac mae ganddo ni obeithion mawr iddo yn y dyfodol, os bydd yn datblygu fel y disgwyl bydd yn rhan allweddol o’r tîm cyntaf am yn hir iawn.”
“Rwyf yn hynod o falch,” meddai Leo Smith wrth golwg360. “Rwyf yn hapus iawn dros fy hun ond yn enwedig fy nheulu sydd wedi fy nghefnogi i bob cam, rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol.
“Mi gefais flas o’r tîm cyntaf yn ddiweddar gan chwarae 12 gêm. Mae hi i fyny fi i frwydro rŵan am le yn un ar ddeg cyntaf y rheolwr.”
Ymestyn cytundeb rheolwr Wrecsam
Mae Wrecsam wedi cyhoeddi bod eu rheolwr Dean Keates wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner gyda’r clwb.
Mi chwaraeodd dros 150 o gemau i Wrecsam fel capten.
Mae ganddo ugain mlynedd o brofiad yn y byd pêl-droed, ac mae wedi ennill dyrchafiad chwe gwaith gyda thri chlwb gwahanol.
Dywedodd Spencer Harris, Cyfarwyddwr y Clwb: “Mae estyn cytundeb Dean yn newyddion gwych i ni. Mewn cyfnod bur mae’n barod wedi rhoi stamp ei hun ar y tîm, gyda’i staff hyfforddi gwych maen nhw wedi dod a ni i’r gêm fodern o ran hyfforddi a datblygu chwaraewr. Rydan ni yn credu mai‘r dull hyn yw’r ffordd ymlaen i’r clwb. Mae Dean yn ‘nabod y clwb a deall gobeithion y cefnogwyr.”