Fernando Llorente (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Mae prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement yn benderfynol o gadw ei afael ar Fernando Llorente, sydd wedi dal sylw Chelsea.
Sgoriodd yr ymosodwr o Sbaen ddwy gôl heddiw wrth i’r Elyrch guro Lerpwl o 3-2, eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn y gynghrair yn Anfield, i godi allan o dri safle isa’r Uwch Gynghrair.
Ac mae ei berfformiadau’r tymor hwn wedi denu sylw Chelsea.
Yn ôl Paul Clement, mae Fernando Llorente yn allweddol i obeithion yr Elyrch o aros yn yr adran, ar ôl sgorio saith gôl yn ei 10 gêm diwethaf.
Dywedodd Paul Clement: “Chwaraeodd e’n dda iawn heddi. Ydw i’n ofni ei golli? Dw i am ei gadw fe yma a’r rheswm dw i am ei gadw fe yma yw’r hyn wnaeth e ei ddangos heddi.
“Dw i’n credu bod ei berfformiad yn dda iawn.
“Os ydych chi’n ei wasanaethu fe’n gywir, mae e’n sgorio goliau, ond rhaid i chi ei wasanaethu fe.”
“Unrhyw beth yn bosib”
Ychwanegodd Paul Clement fod y canlyniad a’r perfformiad yn Anfield heddiw yn dangos bod “unrhyw beth yn bosib”.
“Dw i’n credu mai meddylfryd y criw, ers i fi fod yma, yw fod unrhyw beth yn bosib.
“Ein prif amcan yw nad ydyn ni’n mynd i edrych ar y tabl, a siarad yn unig am faint o fuddugoliaethau neu bwyntiau sydd eu hangen arnon ni.
“Gadewch i ni ganolbwyntio ar berfformiadau. Yn erbyn Arsenal, fe wnaethon ni berfformio am 35 munud.
“Heddiw, fe berfformion ni am 90 munud. Fe wnaethon ni amddiffyn yn dda a manteisio ar ein cyfleoedd yn y chwarae gosod.
“Yr amcan nesaf yw perfformio yn erbyn Southampton, dim byd arall.”
Diwedd y ffenest drosglwyddo
Ar ddiwrnod y gêm yn erbyn Southampton (Ionawr 31), fe allai’r prif hyfforddwr fod yn brysur yn cau pen y mwdwl ar drosglwyddiadau, wrth i’r ffenest drosglwyddo gau.
Mae’r Elyrch eisoes wedi arwyddo tri chwaraewr newydd ym mis Ionawr – y cefnwr chwith Martin Olsson, y chwaraewr canol cae Tom Carroll a’r asgellwr ymosodol Luciano Narsingh.