Casnewydd 1–1 Colchester      
                                                      

Cafodd Casnewydd bwynt digon parchus yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn wrth i Colchester ymweld â Rodney Parade.

Gôl yr un oedd hi ond nid yw pwynt yn ddigon i godi’r Alltudion oddi ar waelod y tabl.

Rhoddodd Josh Sheehan y tîm cartref ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ond unionodd Chris Porter o’r smotyn ddeg munud cyn yr egwyl wedi trosedd Darren Jones ar Kurtis Guthrie.

Ni chafwyd mwy o goliau wedi’r egwyl a bu rhaid i’r ddau dîm fodloni ar bwynt yr un wrth i Gasnewydd aros bump pwynt i ffwrdd o’r gweddill ar waelod y tabl.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Nelson, O’Brien, Jones, Butler, Sheehan, Bennett, Randall (Owen-Evans 66’), Reid (Boiai 75’), Williams

Gôl: Sheehan 23’

.

Colchester

Tîm: Walker, Eastman, Kent, Elokobi, Brindley, Lapslie, Garvan, Dickenson, Slater (Fosu-Henry 88’), Guthrie (Johnstone 78’), Porter

Gôl: Porter [c.o.s.] 35’

.

Torf: 2,397