Rheolwr dros dro Abertawe, Alan Curtis (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Fe allai tîm pêl-droed Abertawe godi oddi ar waelod yr Uwch Gynghrair pe baen nhw’n llwyddo i guro Bournemouth yn Stadiwm Liberty brynhawn dydd Sadwrn.

Ond mae’r Elyrch yn wynebu her ar ddiwedd wythnos anodd i’r clwb ar ôl i’r rheolwr Americanaidd Bob Bradley gael ei ddiswyddo ar ôl cyfres o ganlyniadau siomedig yn ei 11 gêm.

Dim ond 85 diwrnod y llwyddodd y rheolwr i gadw ei swydd, ac mae Alan Curtis wedi camu i’r bwlch unwaith eto fel y gwnaeth cyn i’r rheolwr blaenorol, Francesco Guidolin gael ei benodi.

Ac mae e wedi dweud y bydd chwarae gosod yn dyngedfennol i’r Elyrch os ydyn nhw am gael buddugoliaeth y prynhawn yma.

Mae amddiffyn Abertawe wedi bod yn llac y tymor hwn, ar ôl iddyn nhw ildio 41 o goliau mewn 18 gêm, a sgorio dim ond 21 gôl.

Dywedodd Alan Curtis: “Nid mater o bwyntio’r bys at y bois yn y cefn yw e. Rhaid i’r tîm cyfan fod yn fwy gwydn.

“Mae’r chwarae gosod wedi bod yn fan gwan i ni ers amser hir ac maen nhw wedi bod yn broblem unwaith eto yn ein gemau diweddaraf ni.

“Does dim ateb syml. Rhaid i ni barhau i weithio arnyn nhw.”

Bydd yr Elyrch heb eu hasgellwr chwith chwim, Jefferson Montero sydd allan am fis ar ôl anafu llinyn y gâr yn y golled o 4-1 yn erbyn West Ham ar Ddydd San Steffan.

Ond mae newyddion gwell i’r Elyrch o safbwynt Neil Taylor, wrth i gefnwr chwith Cymru ddychwelyd ar ôl bod allan ag anaf i gesail y forddwyd.

Mae disgwyl i amddiffynnwr Bournemouth, Nathan Ake ddychwelyd i’r tîm ar ôl bod yn anghymwys i herio Chelsea dros y Nadolig.

Mae Lewis Cook allan ag anaf i’w ffêr, a Marc Pugh wedi anafu llinyn y gâr.

Abertawe v Bournemouth – yr ystadegau

Dim ond unwaith yn eu hanes y mae’r ymwelwyr wedi llwyddo i guro Abertawe yn Stadiwm Liberty, a hynny ym mis Ebrill 2008, pan enillon nhw o 2-1 yn yr Ail Adran.

Mae 27 o goliau wedi cael eu sgorio yn y chwe gêm diwethaf rhwng y ddau dîm.

Mae perfformiadau’r Elyrch y tymor hwn yn awgrymu y bydd y gôl gyntaf yn dyngedfennol i’r canlyniad, gyda’r Elyrch wedi ildio’r gôl gyntaf mewn 13 allan o 18 o gemau’r tymor hwn.

Ben arall y cae, mae’r ymosodwr Fernando Llorente yn anelu i fod y chwarae cyntaf i sgorio mewn pedair gêm yn olynol yn yr Uwch Gynghrair i Abertawe.

Record ddigon siomedig sydd gan Bournemouth oddi cartref yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, ar ôl colli eu tair gêm diwethaf, gan ildio tair gôl ym mhob un o’r gemau hynny.

Maen nhw wedi ildio 19 gôl mewn naw gêm.

Bydd rhaid i’r Elyrch gadw llygad ar Joshua King, a sgoriodd yn y ddwy gêm yn eu herbyn y tymor diwethaf.

Cydymdeimlo â Bob Bradley

Daw’r gêm wyth mlynedd union i’r diwrnod y daeth Eddie Howe yn rheolwr dros dro ar Bournemouth, ac mae e wedi mynegi ei gydymdeimlad â Bob Bradley yr wythnos hon.

“Roedd hi’n anodd i Bob Bradley,” meddai.

“Fyddai e ddim wedi cael digon o amser i greu ei ddiwylliant ei hun a rhoi ei syniadau ei hun ar waith, ond dyna greulondeb yr adran a’r craffu mae pawb yn ei wynebu.”