Fernando Llorente (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Bydd meddylfryd a phrofiad Fernando Llorente yn allweddol i dîm pêl-droed Abertawe y tymor hwn, yn ôl eu rheolwr Bob Bradley.

Sgoriodd yr ymosodwr o Sbaen ddwy gôl brynhawn dydd Sadwrn wrth i’r Elyrch guro Sunderland o 3-0 i godi allan o safleoedd disgyn yr Uwch Gynghrair.

Doedd Fernando Llorente ddim wedi tanio ar ddechrau’r tymor, ac fe gafodd ei adael allan o’r garfan a heriodd Everton dair wythnos yn ôl.

Ond bellach, mae’r Sbaenwr wedi sgorio pum gôl i’r Cymry.

Daeth dwy gôl Fernando Llorente, sydd wedi ennill Cwpan y Byd gyda Sbaen, ar ôl i Gylfi Sigurdsson roi Abertawe ar y blaen o’r smotyn.

Ar ôl y fuddugoliaeth, dywedodd y rheolwr Bob Bradley: “Ry’n ni’n credu’n llwyr y gall Fernando fod yn chwaraewr pwysig. Mae dealltwriaeth dda gyda Gylfi yn chwarae y tu ôl iddo fe.

“Mae ganddo fe bresenoldeb, profiad fel enillydd… Mae pob rheolwr wrth ei fodd gyda chwaraewyr sydd wedi bod yn aelod o dimau sydd wedi ennill.

“Mae ganddyn nhw’r meddylfryd cywir ac maen nhw’n gallu cynnig profiadau o’r diwylliant hwnnw o ennill ar y cae wrth ymarfer ac yn yr ystafell newid.”

Roedd Abertawe ar waelod y tabl cyn y gêm ar ôl colli o 5-0 yn erbyn Spurs yn White Hart Lane y penwythnos diwethaf.

Ond Sunderland bellach sydd ar waelod y tabl, ac mae Hull a West Ham hefyd yn y safleoedd disgyn, tra bod yr Elyrch wedi codi i rif 17.

Ychwanegodd Bob Bradley: “Mae’n fonws bach neis i godi o’r tri gwaelod, ond mae gwaith i’w wneud o hyd…”