Casnewydd 0–2 Stevenage
Mae Casnewydd yn aros ar waelod yr Ail Adran ar ôl colli gartref yn erbyn Stevenage ar Rodney Parade nos Fawrth.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen o fewn y deg munud cyntaf wedi i Darren Jones wyro’r bêl i’w rwyd ei hun.
Felly yr arhosodd hi tan bum munud cyn yr egwyl pan ddyblodd Tom Pett fantais Stevenage gyda pheniad.
Felly y gorffennodd hi hefyd wedi ail hanner di sgôr wrth i Gasnewydd golli cyfle i godi o saflaeodd y gwymp, maent yn hytrach yn aros ar waelod y tabl
.
Casnewydd
Tîm: Day, Butler (Jackson 45’), Bennett, Jones, Bignot, Myrie-Williams, Tozer (Labadie 72’), Jebb (Owen-Evans 45’), Barnum-Bobb, Sheehan, Healey
Cerdyn Melyn: Bennett 60’
.
Stevenage
Tîm: Jones, Henry, Wells, Wilkinson, Franks, Pett (McAnuff 90’), Schumacher, King, Cowans (Lee 64’), McKirdy (Liburd 82’), Kennedy
Goliau: Jones [g.e.h.] 9’, Pett 39’
Cardiau Melyn: Franks 50’, King 63’, Wilkinson 76’
.
Torf: 1,877