Chafodd golwr newydd Wrecsam, Luke Coddington, ddim y gêm gynta’ orau wrth i Braintree Town ymweld â’r Cae Ras heddiw.

Mae Coddington newydd ymuno â Wrecsam ar fenthyg o Huddersfield, tra bod Braintree wedi defnyddio wyth golwr gwahanol hyd yn hyn y tymor yma!

Ond Michael Cheek roedd yr ymwelwyr ar y blaen ar ol 22 munud, ac felly y buodd hi wedyn tan y chwiban ola’.

Cerdyn melyn i Lee Barnard (Braintree) ar ol 53 munud, cyn i ddau o chwaraewyr Wrecsam gael eu eilyddio – Shun Harrad ar ol 53 munud, ac Antony Barry ar ol 69′ – gyda Khaellem Bailey-Nichols a Rob Evans yn dod ar y cae yn eu lle.