Dimitar Berbatov (Llun: Wikipedia)
Mae cyn-ymosodwr Man U, Spurs a Fulham, Dimitar Berbatov “ar radar” rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley.

Cyfaddefodd yr Americanwr ei fod e a’r clwb wedi trafod y posibilrwydd o ddenu’r ymosodwr rhyngwladol i Stadiwm Liberty i gryfhau’r ymosod. Mae Berbatov heb glwb ers iddo adael PAOK yn yr haf.

Mae Borja Baston a Fernando Llorente wedi sgorio un gôl yr un i’r Elyrch y tymor hwn, ac mae Abertawe’n canfod eu hunain un safle ar waelod y tabl wrth iddyn nhw groesawu Man U i Stadiwm Liberty ddydd Sul.

Mae Berbatov, sydd wedi sgorio 48 gôl mewn 78 o gemau dros Fwlgaria, eisoes wedi datgan ei ddymuniad i ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair.

Fe ddaeth i Loegr yn 2006 a threulio dwy flynedd gyda Spurs, cyn treulio pedair blynedd yn Old Trafford a dwy flynedd wedyn gyda Fulham.

Cyfarfod wedi bod

“Dw i wedi cwrdd â Dimitar nifer o weithiau a dw i’n gwybod ei fod e’n awyddus i ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair,” meddai Bob Bradley.

“Mae pawb o fewn y clwb yn gwybod hynny ac felly pan fydd trafodaethau’n digwydd, mae ei enw’n cael ei grybwyll. I ba gyfeiriad fyddwn ni’n mynd y tro hwn, does gyda fi ddim ateb i hynny…

“Ond dw i’n sicr yn gwybod am ei fwriad a dw i wedi gweld rhai o’r pethau da mae e wedi’u gwneud yn y gorffennol. Mae e ar fy radar i – ond mae lot o bethau eraill ar fy radar i ar hyn o bryd hefyd.”