Mae capten tîm pêl-droed Abertawe, Leon Britton wedi galw ar y chwaraewr i ddangos parch i’r rheolwr Francesco Guidolin ar drothwy dwy gêm fawr yn erbyn Man City yr wythnos hon, gan rybuddio y gallen nhw gael crasfa yn erbyn Man City nos Fercher.

Bydd y ddau dîm yn mynd ben-ben yn Stadiwm Liberty yng nghwpan yr EFL nos Fercher, cyn wynebu ei gilydd unwaith eto yn yr un lleoliad yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sadwrn.

Ond mae ffrae rhwng yr Eidalwr a dau o’i chwaraewyr, Neil Taylor a Ki Sung-yueng wedi bod yn gysgod tros y paratoadau ar ddechrau wythnos a allai fod yn dyngedfennol i ddyfodol y rheolwr.

Mae adroddiadau eisoes yn awgrymu bod amser yn rhedeg allan i Guidolin gyda dim ond pum gêm o’r tymor wedi mynd heibio.

Er ei fod yn galw ar y chwaraewyr i ddangos parch yn gyhoeddus, mae Leon Britton yn mynnu bod gan y chwaraewyr barch at Guidolin.

“Mae pawb yn y garfan yn parchu’r rheolwr. Does neb wedi ei amharchu fe wrth ymarfer na chwaith y tu ôl i ddrysau caëedig. Efallai nad yw e’n enw mawr ond rhaid i chi barchu’r rheolwr a’r staff.

“Roedd pawb yn rhwystredig ddydd Sul gyda’r ffordd wnaethon ni chwarae a dw i’n credu y bydd Ki wedi siomi.

“Ond ry’n ni’n broffesiynol, rhaid i ni barchu’r rheolwr a pharchu’r chwaraewyr sydd gyda ni.”

Crasfa?

Yn ôl Leon Britton, fe allai Abertawe gael crasfa yn erbyn Man City os ydyn nhw’n ailadrodd yr un camgymeriadau ag y gwnaethon nhw yn erbyn Southampton, pan gollon nhw o 1-0 yn St Mary’s.

Ac mae’r pwysau o chwarae tair gêm o fewn wythnos wedi cael effaith ar rai o’r chwaraewyr, meddai’r capten.

“Mae chwarae dydd Sul wedi amharu rhywfaint ar bethau. Mae rhai o’r bois yn ymadfer felly doedden ni ddim wedi ymarfer fel carfan lawn ddydd Llun.

“Os chwaraewn ni fel gwnaethon ni ddydd Sul, dwi ddim yn meddwl mai colli o ddim ond 1-0 fyddwn ni, bydd hi’n llawer iawn mwy na hynny. Does dim ots ai Man City yw e, fe allen ni fod yn chwarae yn erbyn tîm o’r Adran Gyntaf, os ydyn ni’n chwarae fel gwnaethon ni yn erbyn Southampton, byddwn ni’n ei chael hi’n anodd curo unrhyw dîm.

“Dych chi ddim eisiau dod oddi ar y cae ar ôl colli o bedair neu bump i ddim, does neb eisiau hynny.

“Ry’n ni’n gwybod fod rhaid i ni godi ein safonau fel unigolion ac fel tîm oherwydd os na wnawn ni hynny, byddwn ni’n dioddef yn wael nos Fercher.

“Y rheolwr yw’r pennaeth ond unwaith ry’ch chi’n croesi’r llinell wen, yn nwylo’r chwaraewyr mae e wedyn. Gallwch chi siarad am dactegau a dulliau gwahanol o wneud pethau, ond unwaith ry’ch chi’n croesi’r llinell wen, rhaid i’r chwaraewyr berfformio.”