Mae tim pêl-droed Cymru wedi dringo’r degfed safle yn rhestr diweddaraf FIFA.
Maen nhw bellach un safle uwchben pencampwyr y byd Sbaen sy’n safle 11eg, gyda Uruguay yn 9fed.
Fe gyrhaeddodd ddynion Chris Coleman y rownd gyn-derfynol ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Ffrainc ar ddechrau’r haf ac mae ei llwyddiant diweddar wedi golygu ei bod wedi saethu i fyny’r tabl.
Cafodd Cymru ddechrau llwyddiannus i’w hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018, gan guro Moldofa o bedair gôl i ddim ddechrau’r mis hwn.
Bum mlynedd yn ôl, yr oedd Cymru yn safle 117 ar y rhestr, un safle o dan Haiti.
Mae tîm Lloegr yn parhau ddau safle yn is na Chymru, er ei bod wedi codi un safle yn rhestr diweddaraf.