Chris Coleman (llun: Jamie Thomas)
Dydy’r adroddiadau am ddyfodol rheolwr tîm pêl-droed Cymru ddim wedi tynnu sylw’r chwaraewyr oddi ar y dasg o baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd, yn ôl yr ymosodwr Sam Vokes.

Mae o leia’ un clwb o Uwch Gynghrair Lloegr wedi holi am geisio denu Chris Coleman ond, yn ôl Vokes, doedd dim syndod yn hynny ar ô lei lwyddiant yn arwain Cymru i rownd gyn-derfynol Ewro 2016 yn Ffrainc.

“Mae’r rheolwr yma, fe yw’r rheolwr, ac fe wnawn ni weithio’n galed iddo fe,” meddai’r ymosodwr. “Mae pobol yn symud ymlaen yn y byd pêl-droed, ond fe yw’r rheolwr ar hyn o bryd ac mae’n mynd yn dda.”

Roedd yn mynnu bod sylw’r chwaraewyr wedi’i hoelio ar y gêm yn erbyn Moldofa nos Lun ac ar weddill yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia ymhen dwy flynedd.

Mae’n hysbys fod clwb Hull City wedi gofyn i’r Gymdeithas Bêl-droed am hawl i siarad gyda Coleman ond mae yntau wedi arwyddo cytundeb gyda Chymru tan ar ôl y Cwpan Byd.

“Wrth gwrs,” meddai Vokes, “gyda phopeth ddigwyddodd dros yr haf a’r llwyddiant, roedd hi bob amser yn mynd i ddigwydd fod y rheolwr yn cael ei gysylltu â rhywle, gan ei fod e wedi gwneud gwaith cystal, felly doedd hi ddim yn syndod i fi, ond mae’n braf i’w gael e yma o hyd.

“Dw i’n siŵr ei fod e’n credu yn yr hyn ry’n ni’n ei wneud yma a’r ymgyrch sy’n dod ac felly mae’n rhaid bod hynny wedi ei helpu i wneud y penderfyniad [i aros].”

Dyfodol disglair

Mae gwybod fod Coleman yn aros – am y tro o leia’ – yn hwb i’r chwaraewyr, yn ôl Vokes, sy’n rhagweld dyfodol disglair i’r garfan.

“Y rheolwr a’i staff sydd wedi bod yn gyfrifol am adeiladu’r hyn ry’n ni wedi’i adeiladu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hynny’n helpu ar y cae ac oddi arno, dw i’n meddwl.

“Ar y cae, r’yn ni’n gweithio’n galed ar yr hyn ry’n ni’n ei wneud a’r gwrthwynebwyr, a nhw [Coleman a’i staff] sy’n gwneud tipyn o’r gwaith hwn. Oddi ar y cae, mae e’n grêt i’r bois gyda phopeth ry’n ni’n ei wneud.

“R’yn ni’n gwybod sut yr ’yn ni’n gweithio, mae’r grŵp o chwaraewyr a’r staff yn un agos iawn ac i ni, wrth fynd i mewn i ymgyrch Cwpan y Byd, mae’n dda cael sefydlogrwydd, a rhywbeth i adeiladu arno o’r hyn wnaethon ni ddechrau yn Ffrainc.”