Francesco Guidolin yn teimlo'r pwysau yn erbyn y pencampwyr
Mae rheolwr Abertawe, Francesco Guidolin wedi cyfaddef y bydd angen i’w dîm fod yn ddewr er mwyn curo Caerlŷr ddydd Sadwrn.
Bydd yr Elyrch yn teithio i ganolbarth Lloegr, gan wybod na allan nhw ailadrodd eu perfformiadau yn erbyn pencampwyr yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, ar ôl iddyn nhw ildio saith gôl yn y ddwy gêm, heb sgorio’r un gôl.
Mae Caerlŷr eisoes wedi cael hwb y tymor hwn o glywed eu bod nhw wedi llwyddo i ddal eu gafael ar ddau o’u sêr, Jamie Vardy a Danny Drinkwater, sydd wedi arwyddo cytundebau newydd gyda’r clwb.
Mae Abertawe, serch hynny, wedi dechrau’r tymor newydd heb eu capten, Ashley Williams, sydd wedi symud i Everton, a Neil Taylor, sydd wedi cael cyfnod estynedig o seibiant yn dilyn ymgyrch Cymru yn Ewro 2016.
Y tro diwethaf i’r Elyrch fynd i’r King Power Stadium ym mis Ebrill, fe gollon nhw o 4-0 wrth i Gaerlŷr garlamu tua’r tlws. Ar eu tomen eu hunain y tymor diwethaf, collodd yr Elyrch eu rheolwr blaenorol, Garry Monk a gafodd ei ddiswyddo ar ôl colli o 3-0 yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.
‘Siom’
Yn ôl Francesco Guidolin, mae’r canlyniadau hynny’n dal yn y cof ac mae’n rhaid i’r tîm dynnu ar y siom deimlon nhw bryd hynny er mwyn sicrhau canlyniad gwell y tro hwn.
Meddai Guidolin: “Rhaid i ni gofio. Rhaid i ni fyfyrio ar y canlyniadau hynny.
“Rhaid i ni chwarae gêm glyfar y penwythnos hwn, a hefyd rhaid i ni chwarae gêm ddewr yn erbyn tîm da iawn.
“Y tymor diwethaf, gwnaethon ni ildio saith gôl yn erbyn Caerlŷr. Mae’n bwysig cofio hynny.
“Rwy’n credu bod Caerlŷr yn dîm cryf – maen nhw bron yr un peth â’r tymor diwethaf.”
Y gwahaniaeth y tro hwn yw fod y pencampwyr eisoes wedi colli yn erbyn Hull, sydd newydd ennill dyrchafiad, ac wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Arsenal yn eu dwy gêm gyntaf.
“Rhaid i ni chwarae â dewrder yn eu herbyn nhw. Rhaid i ni chwarae â dewrder ym mhob gêm yn y gynghrair hon a gobeithio y gwelaf i fy chwaraewyr yn gwneud hynny y penwythnos hwn.”
Y tîm
Ar ôl sgorio dwy gôl yn erbyn Peterborough, mae disgwyl i Ollie McBurnie gadw ei le yn y tîm, er bod Guidolin yn amharod i ddatgelu pwy fydd yr unarddeg fydd yn dechrau’r gêm.
“Mae Ollie yn chwaraewr sy’n gwella. Mae ganddo fe frwdfrydedd ac mae e’n frwydrwr. Mae angen iddo fe wella eto, ond mae e gyda ni’n ymarfer ac mae e’n un i’r dyfodol.”
Ond un chwaraewr sydd allan o’r gêm yw’r ymosodwr Borja Baston. Dydy’r chwaraewr a gafodd ei brynu am £15.5 miliwn o Atletico Madrid – sy’n record i Abertawe – ddim wedi chwarae i’r Elyrch eto, ond y gobaith yw y bydd e’n dechrau ymarfer ddechrau’r wythnos nesaf.