Chris Coleman (Llun:Joe Giddens/PA)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi wfftio’r syniad o gael tîm Olympaidd Prydeinig ar gyfer y Gemau yn Tokyo ymhen pedair blynedd.
Fe ddywedodd rheolwr newydd Lloegr Sam Allardyce ddechrau’r wythnos y byddai’n croesawu gweld tîm pêl-droed Prydeinig yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd nesaf.
Ond mae Chris Coleman wedi wfftio’r syniad gan ddweud y byddai’n peryglu’r hyn sydd wedi cael ei greu gyda thîm Cymru, fel yr eglurodd: “Unrhyw beth allai beryglu beth sydd gennym ni yma, beth rydyn ni wedi’i adeiladu yma, fydden ni ddim o blaid hynny. Rydyn ni wastad wedi bod o’r farn nad ydyn ni’n cytuno a hynny, a dydi hynny heb newid.
“Ar y funud, mae gan ein chwaraewyr hunaniaeth, ac y maent yn gwisgo’r crys gyda balchder. Dyna’r cyfan y mae ein gwlad ei angen.”
Fe wnaeth tîm pêl-droed Prydeinig gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, gyda Joe Allen, Craig Bellamy a Ryan Giggs yn cynrychioli Cymru.
Ond profodd hynny’n ddadleuol ymhlith y cefnogwyr, tra bod Cymdeithasau Pêl-droed Cymru a’r Alban yn gwrthwynebu’r penderfyniad. Fe wnaeth Gareth Bale dynnu allan o’r garfan gydag anaf ond fe chwaraeodd i’w glwb Tottenham Hotspur ar y pryd yn syth wedyn.
Tîm i Loegr
Mae Chris Coleman yn teimlo y byddai tîm Olympaidd o’r fath yn fwy o dîm ar gyfer Lloegr ac yn tynnu’r gorau allan o’i chwaraewyr,
“Dylai gael ei alw’n dîm Olympaidd Lloegr, achos dyna fyddai e mewn gwirionedd.
Ond fe wnawn nhw ddewis a dethol [Gareth] Bale neu Rambo [Aaron Ramsey] falle. Pam ddylen ni eu rhoi nhw lan, gadael iddyn nhw gymryd y gorau allan ohonyn nhw ac yna’u taflu nhw nôl i ni pan maen nhw wedi gorffen gyda nhw?”
Dywedodd Chris Coleman fod ei chwaraewyr yn chwarae digon o gemau yn barod, meddai “Dw i ddim yn meddwl bod hynny’n deg o gwbl. Dw i’n meddwl eu bod nhw’n chwarae digon o bêl-droed.”