Wrth i UEFA baratoi i dynnu enwau timau allan o’r het ym Monaco ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr, fydd yn dod i ben yng Nghaerdydd y tymor hwn, mae Gareth Bale yn aros i glywed ai fe fydd yn cael ei goroni’n Chwaraewr Gorau Ewrop.

Mae Bale ar restr fer o dri chwaraewr ynghyd â Cristiano Ronaldo, sydd hefyd yn chwarae i Real Madrid, a’r Ffrancwr Antoine Griezmann, sy’n chwarae i Atletico Madrid.

Enillodd Bale Gynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid y tymor diwethaf cyn arwain rheng flaen Cymru yn Ewro 2016 yn Ffrainc, lle’r oedd yn allweddol i lwyddiant y tîm cenedlaethol wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd gyn-derfynol – cyn colli yn erbyn Portiwgal a Cristiano Ronaldo.

Bale yw’r Cymro cyntaf i gyrraedd rhestr fer y wobr sydd wedi bodoli ers pum mlynedd ac sydd, mewn gwirionedd, yn gyfuniad o’r hen Ballon d’Or a Chwaraewr y Flwyddyn Fifa.

Bale yw’r Cymro cyntaf ar y rhestr fer ers John Charles yn 1959.

Bydd cynrychiolwyr o holl wledydd UEFA yn dewis yr enillydd terfynol a chafodd y rhestr hir ei dewis gan newyddiadurwyr.

Yn ôl y canllawiau, dylai’r enillydd fod yn chwaraewr sydd wedi cael dylanwad sylweddol ar bêl-droed Ewropeaidd yn ystod y tymor blaenorol.

Mae’r achlysur hefyd yn gyfle swyddogol i Gymru lansio blwyddyn o baratoadau cyn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Bydd llysgenhadon Cymru ar gyfer y gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys Ian Rush.